Darllen a Dysgu | Reading & Learning – Articles Level 2

Wennol - Darllen a Dysgu - Lefel 2
Darllen a Dysgu – Lefel 2

Cath Dhanjal

Cath Dhanjal dw i. Dw i’n byw yn Lloegr, rhwng Bryste a Chaerfaddon. Dw i’n dysgu Cymraeg ers mis Ebrill 2022. Cymraes yw fy mam i, ond dyw hi ddim yn siarad Cymraeg. Ond, mae hi’n gallu canu’r anthem genedlaethol! Dw i’n trefnu dau grŵp sgwrsio yn yr ardal ers mis Medi 2022 achos doedd gen i ddim cyfle i siarad Cymraeg. Dyn ni’n cwrdd un prynhawn bob mis yng Nghaerfaddon, ac un noson bob mis yn Keynsham (De Bryste).

Mae dysgwyr gyda ni yn y grwpiau a phobl sy’n siaradwyr naturiol hefyd. Eleni dw i’n dysgu lefel Uwch 1 mewn blwyddyn, ar lein gyda DysguCymraeg Ceredigion. Dw i’n edrych ymlaen at fynd i aros yn Nant Gwrtheyrn ym mis Mehefin am wythnos! Es i Benrhyn Llŷn i fynd i’r Eisteddfod am y tro cyntaf yn 2023, roedd rhywbeth arbennig i gael cyfle i amsugno diwylliant a cherddoriaeth Cymru.

Arhosais i mewn bwthyn ar fferm defaid ger Llangian gyda fy nghyfnither a’i phartner sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Dwedodd y ffermwr mai dyma’r tro cyntaf iddo gael ymwelwyr oedd yn siarad Cymraeg.

Dw i’n falch iawn o fy nghyfnither Jane Burnard – mae hi’n cyfieithu llyfrau o Gymraeg i Saesneg gyda Gwasg Carreg Gwalch, ac awdures yw hi hefyd (chwiliwch am ‘The Thirty-Third Owl’)!

Carol Evans

Helo Pawb, Carol dw i. Wel mae’r Nadolig wedi mynd. Gobeithio bod pawb wedi bod yn hapus gyda’r cinio Nadolig a’r anrhegion. I fi mae’r Nadolig yn dechrau pan dw i’n clywed llais y ‘boy soprano’ yn canu ‘Once in Royal David’s City’ o Goleg y Brenin, Caergrawnt. Mae rhywbeth arbennig iawn am y lle a’r carolau.

Ar y pedwerydd ar bymtheg o Ragfyr cawson ni wasanaeth carolau yn ein capel, Capel Soar, Rhiwceiliog, gyda Chôr Cymysg Morgannwg Ganol. Roedd hi’n hyfryd i weld y capel yn llawn. Roedd rhaglen y côr yn llawn o ganeuon Nadolig a charolau. Roedd un o’r carolau ‘Hwiangerdd Mair yn fendigedig ac yn llawn o hiraeth.

Ar ôl y cyngerdd roedd parti gyda bwyd, bwyd, a mwy o fwyd.!!! Noson lawn o gerddoriaeth a lleisiau yn canu yn harmoni. Noson i gofio yn wir.

Gobeithio bydd 2025 yn garedig i chi oll.

David Rose

David Rose dw i a dw i’n byw ym Milton Keynes nawr ond yn wreiddiol dw i’n dod o Dredegar. Symudais i Lundain ar ôl gadael coleg yn yr wythdegau ond nawr dw i’n byw ger cyffordd un deg pedwar o’r M1.

Dechreuais i ddysgu Cymraeg tair blynedd a hanner yn ôl pan ymddeolais oherwydd ro’n i eisiau cerdded Llwybr Arfordir Cymru a siarad gyda phobl yng Nghymraeg.

Dw i’n ceisio mynd i Ganolfan Cymraeg Llundain mor aml â phosib er mwyn ymarfer siarad ‘yn y gwyllt’!

Ces i ddim cyfle i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol. Dw i’n mwynhau dysgu’r iaith ond yn aml mae’n anodd!

Dw i wedi gwneud cyfeillion da ar hyd y ffordd. Mae teulu gyda fi yn Nhredegar a dw i’n hoffi ymweld â fy chwiorydd, perthnasau a chyfeillion pan dw i’n gallu.

Shwmae Pawb

gan Carol Wright

Heddiw (15 Hydref) yw’r diwrnod ‘Shwmae Su’ mae’. Mae’r trefnwyr yn ei egluro fel “cyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith – yn y siop, yn y ganolfan hamdden, yn yr ysgol …”.

Dw i’n hoffi’r syniad ‘na, ond yn anffodus dw i ddim yn gallu siarad Cymraeg yma yn Swydd Buckingham, ble dw i’n byw, achos dydy neb yn yr ardal yn siarad Cymraeg. Beth bynnag, pan dw i yng Nghymru, dw i wastad yn trio siarad Cymraeg. Ym mis Medi ro’n i’n aros gyda fy nheulu ym Mhwllheli. Dyn ni’n dwlu â’r ardal ‘na, ac yn mwynhau cerdded ar lwybr yr arfordir ym Mhen Llyn, neu ymweld â Llanberis a’r Wyddfa, ac i gestyll fel Cricieth a Chaernarfon.

Dw i’n dysgu Cymraeg gyda Choleg Gwent, a dw i’n trio deall tafodiaith ardal Pwllheli, ond mae’r acen yn gryf iawn. Siaradais i gyda phobl yn y siopau, ond weithiau ni ddeallais yr ateb, neu atebon nhw yn Saesneg! Un dydd ro’n i’n prynu rhywbeth yn y farchnad, a siaradais Cymraeg gyda perchennog y stondin. Deallais i fe’n iawn, felly gofynnais i fe o ble yng Nghymru mae e’n dod. Dwedodd e fod yn dod o’r Almaen, ond yn byw yng Nghymru ers talwm. Dw i’n siarad Almaeneg hefyd – efallai dyma pam ro’n ni’n deall ein gilydd!

Joan Cooper

Joan Cooper dw i. Ym mis Mai es i ar wyliau i Carnac yn Llydaw gyda fy mab, merch yng nghyfraith a fy wyres. Dyn ni wedi gweld Cerrig Carnac – y cerrig megalithig mwyaf yn y byd, wedi ei godi gan bobl Llydaw yn yr oes cyn Geltaidd, yn debyg iawn o gwmpas 3300 cc. Maen nhw’n cynnwys rhesi o feini cromlech a meini unigol. Wedyn aethon ni i Vannes a Phont Aven ac wedi mwynhau gweld yr hen adeiladau. Gwyliau diddorol dros ben a phawb wedi mwynhau yn fawr.

Jôc Izzy Lane

Dw i ddim yn dweud bod hi wedi bwrw glaw llawer yr wythnos ‘ma ond, bore ddoe, gwelais i ddyn yn cerdded heibio gyda dwy afr. Yn y prynhawn aeth e heibio gyda dwy ddafad. Y bore ‘ma, roedd dwy iâr a dwy hwyaden gyda’r dyn. Mae fy nghymydog yn dweud fod llong fawr gyda’r dyn, yn y doc!

Jôc arall Izzy Lane

Ar fy ffordd i’r gwaith, ces i fy stopio gan yr heddlu. “Dych chi’n gwybod pam gwnaethon ni’ch stopio chi?” gofynnod y swyddog.

“Un funud” dwedais i, “Gadewch i mi orffen yr alwad ffôn yma!”

Casglu arian i Marie Curie

gan Elizabeth Brent

Dw i wedi treulio dwy awr yn casglu arian ar y stryd yn Mwmbwls ar gyfer Marie Curie ddoe. Gwnes i sefyll o flaen y Co-op. Roedd y tywydd yn braf ond yn oer iawn. Ar ôl awr do’n i ddim yn gallu teimlo fy nhraed er ro’n i’n gwisgo dau bâr o hosanau!

Roedd rhaid i fi wisgo het ddwl! Roedd yr het yn edrych fel cennin Pedr! Dyma’r llun! Gwnes i wisgo sbectol haul yn y gobaith y byddai neb yn fy adnabod!

Gwnes i gasglu llawer o arian, ond mae rhai pobl yn llawn esgusodion …..… Does dim arian mân gyda fi.…neu rhai yn mynd heibio fi, wrth edrych i ffwrdd.

Bydd yr arian yn helpu i ofalu am fwy o bobl sy’n byw gyda salwch terfynol.

Cyfarfod ar Hap

gan Georgina Smith a Lesley Butler

Georgina a Lesley ydyn ni a dan ni’n dwy yn dysgu Cymraeg ar-lein gyda Phopeth Cymraeg. Mi wnaethon ni dechrau yn ystod y cyfnod clo. Dan ni newydd ddechrau Sylfaen uned un. Dan ni’n lwcus i fod mewn dosbarth da iawn efo tiwtor gwych.

Mae Georgina yn byw yn Neganwy a Lesley yn Nhremadog felly fydden ni ddim wedi cwrdd fel arall.

Mi wnaethon ni gyfarfod wyneb yn wyneb, efo’n cyd-ddisgyblion, am y tro cyntaf ym mis Hydref 2021 ar daith gerdded yn Ninbych a drefnwyd ar gyfer dysgwyr gan Bopeth Cymraeg. Cawson ni ginio diddorol – darn o wydr yn y cawl!

Wnaethon ni cyfarfod eto efo’n dosbarth am ginio amser Nadolig 2022 . Roedd llawer o siarad Cymraeg.

Cyn i ni ymddeol, roedden ni’n gweithio mewn Prifysgolion, Georgina ym Mhrifysgol Manceinion a Lesley ym Mhrifysgol Lerpwl. Roedden ni’n nabod yr un bobol.

Ar ôl hyn, roeddem am gadw mewn cysylltiad ac ers hynny rydym wedi cyfarfod yn rheolaidd gyda’n gwŷr, Dave ac Alan, am deithiau cerdded a bwyd naill ai yn Neganwy neu yn Nhremadog.

Dan ni’n dwy yn mwynhau dysgu Cymraeg ac yn ceisio ymarfer siarad Cymraeg pan fyddwn yn cwrdd. Roedd ein cyfarfod diwetha’ ym Mangor am ginio, roedd yn hyfryd.

Doedden ni ddim yn meddwl pan benderfynon ni ddysgu Cymraeg y bydden ni’n ddigon lwcus i gael ffrind newydd.