Darllen a Dysgu | Reading & Learning – Articles Level 3

Wennol - Darllen a Dysgu - Lefel 3
Darllen a Dysgu – Lefel 3

Deborah Ledbrook

 Gwanwyn yw fy hoff dymor, o bell ffordd.  Mae’n bwysig wrth gwrs peidio cymysgu “gwanwyn” a ‘gwenwyn’.  Dych chi’n gwybod be’ ‘dy ‘gwenwyn’?  A beth am ‘gwenyn?’

Dw i’n edrych ymlaen at y gwanwyn – mae’r tywydd yn dechrau cynhesu, mae’r dyddiau’n mynd yn hirach, ac mae’r coed a phlanhigion yn dechrau tyfu. Mae’n teimlo fel bod pawb yn hapusach wrth i ni nesáu at y gwanwyn, a gorau oll, mae cennin Pedr yn eu blodau llawn ym mis Mawrth – fy hoff flodyn.

A dw i newydd ddarganfod bod cennin Pedr yn cael eu defnyddio i drin clefyd Alzheimers. Yn ôl y sôn, mae’r bylbiau yn cynnwys ‘galantamine’, ond y dyddiau hyn maen nhw’n ei wneud e mewn labordai yn synthetig

Ac wrth gwrs, ar y cyntaf o Fawrth, mae Cymru’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant, pan fydd pawb yn gwisgo cenhinen neu genhinen Pedr – er nad yw’r ddau yn perthyn i’r un teulu Alium (teulu’r winwnsyn) ydy cenhinen, ond Narcissus ydy’r cenhinen Pedr).

Gwisgo cennin Pedr yw rhywbeth a dechreuodd David Lloyd George yn 1911, yn ôl y sôn. Ond am gannoedd o flynyddoedd cyn hynny, roedd milwyr Cymreig wedi gwisgo cenhinen yn eu capiau wrth fynd i frwydr. Mae’r ddau beth nawr yn arwyddlun cenedlaethol Cymru.

Adrian Pugh

Adrian ydw i ac rwy’n byw yn Sir Benfro. Dros dri deg mlynedd yn ôl pan o’n i’n iau ro i’n yn arfer chwarae badminton i dîm Meads yn Aberdaugleddau. Chwaraeon ni yng Nghynghrair Badminton Sir Benfro gyda thimau o Abergwaun, Doc Penfro, Llanusyllt a Dinbych-y-pysgod. Yn y gorffennol ro i’n chwarae pêl-droed pump bob ochr, tennis bwrdd, sboncen unrhyw beth gyda raced neu bêl ac yn awr yn chwarae tennis ddwywaith yr wythnos.

Rhoddais y gorau i chwarae badminton flynyddoedd yn ôl oherwydd daeth fy nheulu, fy ngwaith a’r gynghrair Badminton i ben. Yn ddiweddar mae clwb badminton wedi cychwyn yn Hwlffordd ym Mhentref Chwaraeon Sir Benfro. Felly dwi wedi dechrau chwarae badminton eto er nad ydw i mor gyflym ag o’n i’n arfer bod ond mae hi’n wych iawn.

Sally Williams

Beth!! Ysgrifennu yn Gymraeg dros amser Nadolig, dim gobaith caneri !! Ac mae hi’n rhy oer, rhy wlyb, rhy erchyll, rhy bopeth i dreulio amser y tu fas.

Achos mae’n erchyll, baswn i’n gallu gwneud fy ngwaith cartref, ynte? Ond, na faswn!! Nadolig yw amser am sbri, dim amser i wneud blwmin gwaith cartref!

Baswn i’n gallu ymarfer, neu adolygu gramadeg Cymraeg, rheolau treiglo, lluosogi, pethau bendigedig fel’ na…..ond na, dw i ddim yn meddwl !!

Basech chi’n meddwl mwy ohonof i taswn i’n gwneud fy ngwaith cartref? Basai’r dosbarth yn dweud ‘grêt’ taswn i’n ysgrifennu rhywbeth?… Na fasech !! Basech chi’n chwerthin amdanaf fi siŵr o fod.

Dylwn i ysgrifennu rhywbeth nawr, ar unwaith….ond alla i ddim. Dw wedi cael llond bol o Gymraeg!

Geiriau Caredig

o Hobart Tasmania

oddi wrth Robin Roberts

Diolch Rob am eich holl waith caled yn cynhyrchu’r Wennol bob mis ac yn ein hannog i ddysgu Cymraeg. Mae Tasmania tua dwywaith maint Cymru gyda phoblogaeth o hanner miliwn o bobl. Fel chi rwy’n mwynhau crwydro cefn gwlad a thynnu lluniau ond gyda phoblogaeth mor isel mae gennym ddigon o ffyrdd cefn tawel a dim llawer o’r traffyrdd dw i’n hapus i osgoi. Mae llawer o’n mannau prydferth oddi ar y trac wedi’i guddio a gallwn fod yn ddigon ffodus i beidio â gweld enaid arall. Rwy’n siŵr y byddech chi wrth eich bodd yma.

Dymuniadau gorau a hwyl fawr – Robin.

Diolch yn fawr iawn Robin, dw i’n gwerthfawrogi hynny.

Bronwen Parr

Dyn ni’n byw i’r de o Hobart, Tasmania, ar 5 erw o gaeau a choed gwm. Mae’r coed pinwydd yn tyfu’n gyflym fel chwyn yma ar ymyl ein ffyrdd.

Dyn ni’n torri coeden fach gyda’n hwyrion, rhoi fo ar ein dec tu allan, ac yn ei haddurno. Dyn ni’n rhoi anrhegion pawb o’i gwmpas.

Mae llawer o’n teulu a’n ffrindiau yn dod i’n tŷ ni. Dyn ni’n bwyta amrywiaeth o salad a chaws, ffrwythau, bwyd môr, diodydd oer, paflofa a hufen iâ. Dyn ni’n coginio cig oen a chig eidion ar y barbeciw.

Rhaid inni fod yn ofalus i beidio â chael llosg haul!

Wendy Evans

Mae’r Nadolig yn Awstralia yn wahanol iawn i’r Nadolig yng Nghymru. Mae’n haf yma felly gall dydd Nadolig fod yn eithaf poeth. Mae llawer o bobl yn nofio mewn pyllau neu yn y môr ar ddiwrnod Nadolig ac mae cinio yn aml yn gymysgedd o fwyd oer fel salad, cimwch y môr a bwydydd eraill o’r môr. At hyn efallai y byddwn yn ychwanegu bwyd traddodiadol fel twrci, saws llugaeron, ham, tatws a llysiau. Roedd fy nhad wrth ei fodd efo cnau ffrenig wedi’u piclo ac ysgewyll Brwsel felly byddwn ni’n cael y rheini bob blwyddyn hefyd. Mae rhai traddodiadau yn parhau!

Robin Roberts

Bob Nadolig mae’r cyngor lleol yn cynnal brecinio am ddim i’r rhai yn y gymuned sy’n dymuno cymryd rhan. Ar noswyl y Nadolig a dydd Nadolig rwy’n ymuno â thîm o wirfoddolwyr sy’n helpu i sefydlu a pharatoi ar gyfer pryd o fwyd blasus.

I mi, y rhan orau yw gweithio gyda thîm o bobl siriol i wneud diwrnod cofiadwy i bobl a allai fod yn gweld amser y Nadolig ychydig yn heriol.

Ar brynhawn Nadolig rwy’n ymuno â fy ffrindiau am farbeciw BYO ym mharc traeth lleol lle rydym yn chwarae gemau cyfeillgar fel pêl-droed, rownders neu fini polo.

Guy Nicholson

Mae gen i deulu mawr a rhai ohonon nhw yn byw ar gyfandir Awstralia felly mae’n rhaid i mi brynu anrhegion i bawb a’u gyrru nhw mewn digon o amser cyn dydd Nadolig. Mae fy ngwraig, ei mab a fi yn chwilio bob blwyddyn am goeden Nadolig yn y cefn gwlad ger Hobart. Mae yna lawer o binwydd yn Nhasmania ac maen nhw’n tyfu o gwmpas y lle fel chwyn.

Mae’r hinsawdd yn Nhasmania yn wahanol i Brydain oherwydd gwres yr haf (sy ddim wedi cyrraedd eto) ond er gwaethaf hyn dwi’n edrych ymlaen at fwyd traddodiadol sy’n dŵad yn wreiddiol o Brydain. Fel arfer rydym yn treulio dydd Nadolig efo aelodau’r teulu ac eleni efo merch fy ngwraig a’i phartner sy’n llysieuwyr. Yn ffodus byddai’n bosib i bobl eraill fwyta twrci hefyd ac rydym i gyd yn medru rhannu bwyd a diodydd blasus fel cacen Nadolig, pwdin Nadolig, mins peis a photel neu ddwy o win Tasmanaidd.

Eisteddfod Pontypridd

gan Joan Cooper

Ar ddydd Mawrth 6ed o Awst es i efo Rob i’r Eisteddfod ym Mhontypridd, fy ymweliad cyntaf erioed. Roedden ni’n ffodus efo’r tywydd achos roedd hi’n heulog ac yn dwym. Roedd llawer o bobl yna ond doedd hi ddim yn rhy brysur, roedd yr awyrgylch yn groesawgar ac yn gyfeillgar. Mwynheais gweld y stondinau yn enwedig yn y pentref crafft a’r stondinau gemwaith a lluniau. Roedd yn bleser wrando ar gôr y plant. Wnaethon ni gyfarfod rhai o ffrindiau Rob a chael sgwrs.

Diwrnod hyfryd, llawn cymreictod!

Pam Hollinshead-Jones

Fy enw i yw Pam, rwy’n briod ag Alan sy’n hanner Gymro.  33 mlynedd yn ôl addewais i fy mam yng nghyfraith newydd y byddwn yn dysgu iaith y Nefoedd – wel dw i dal yn dysgu!  Mae fy sgiliau sgwrsio yn wael, ond mae darllen ac ysgrifennu yn gwella. 

Rwy’n mwynhau darllen Y Wennol ac mae’n sicr yn fy herio. Rwy’n helpu i gynnal Caffi Cymraeg yn ein heglwys leol, a fynychir gan ddysgwyr a Chymry Cymraeg.  Mae bob tro yn hwyl!   

Tasmania Gwyntog

gan Wendy Evans

Helo o Tasmania gwyntog! Mae’r gwynt wedi bod yn gryf iawn y bythefnos yma. Mae’n wanwyn yma ac mae’r cennin Pedr a bylbiau’r gwanwyn yn blodeuo ond mae’r eira yn dal ar y mynydd.

Mae gen i ddwy hwyl cysgod ar fy nec sy’n rhoi cysgod i mi yn yr haf ond ar hyn o bryd maen nhw’n cael eu chwythu gan y gwynt ac yn swnio fel taranau. Rydyn ni’n cael hi’n anodd cysgu! Dydd Llun chwythodd y gwynt fy sbwriel drosodd dwywaith ac roedd rhaid i mi godi’r sbwriel a’r biniau oedd ar hyd y ffordd.

O dîar! Chwythodd y gât gefn yn y gwynt hefyd. Gobeithio cawn ni dywydd gwell yn fuan!

Geraldine Mann

Diolch byth, mi wnes i gofio cribo fy ngwallt y bore ‘ma cyn ein taith.

Mi wnaethon ni benderfynu cerdded ar lan yr afon. Fel arfer, dan ni’n cerdded ar hyd llwybr arall, trwy’r goedwig. Mae Phoebe yn hoffi rhedeg ar ôl gwiwerod a chwningod yno.

Heddiw, roedd ‘na gyfle i ni i gerdded dros y cae tuag at yr afon achos, does dim gwartheg yn pori yn y cae.

Y dyddiau hyn, dw i’n ffeindio bod gwartheg yn ymosodol. Pan ro’n i’n blentyn ro’n i’n harfer helpu fy nhaid gyda’r gwartheg. Felly,

dw i ddim yn ofnus ohonynt. Dan ni’n osgoi nhw cymaint â phosibl.

Beth bynnag……

Mi wnaethon ni gerdded ar hyd y llwybr cul ar draws y cae. Roedd yr haul ar ein cefnau. Roedd y niwl yn codi efo’r addewid o ddiwrnod braf i ddod.

Mi aethon ni heibio’r ” Cwpan a Soser”.

Yn sydyn, mi wnaeth crëyr glas hedfan wrth ein hymyl ac yna un arall !

Mi aethon ni ymhellach tuag at dŷ’r colomennod a mynd heibio’r ffens fetel.

Doedd dim adar ar y ffens y bore ma.

Ble mae gwenoliaid wedi mynd?

David Austin

Helo Pawb. David dw i. Dwi’n byw yn Littlehampton (Aberarun) yn West Sussex ar hyn o bryd. Dwi’n dod o Halifax, Swydd Efrog, yn wreiddiol – ond roedd hynny amser hir yn ôl! Mae fy ngwraig, fy merched a fi wedi bod yn Aberarun ers 18 mlynedd, ond rŵan dan ni’n mynd i symud. Gobeithio, bydden ni’n symud i Borthmadog ym mis Tachwedd.

Nes i ddechrau dysgu Cymraeg yn 2019. Roedden ni ar wyliau ym Machynlleth pan ddechreuais i. Ro’n i’n defnyddio Duolingo i ddechrau, ond hefyd wedi bod yn defnyddio Dysgu Cymraeg ar-lein, llyfr Dosbarth Nos, gwersi Tyfu Cymraeg ar-lein, a thipyn bach o Say Something in Welsh. Dwi’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth Meinir Gwilym, Meic Stevens, ac eraill. Dwi hefyd wedi ceisio ysgrifennu caneuon yn Gymraeg, dwi’n amau eu bod nhw’n gwneud llawer o synnwyr!

Ers y llynedd, dw i hefyd wedi bod yn mynd i gyfarfodydd ar-lein y Crynwyr yn Gymraeg – yn anffodus, dydw i ddim yn deall llawer. Dwi’n medru deall llawer o eiriau, ond dim llawer o frawddegau! Dwi’n edrych ymlaen at fyw yng Nghymru a dod yn well am ddeall a siarad

Shirley David

Shirley dw i, a dw i’n byw ym Milton, yn Sir Benfro. Does dim plant gyda fi. Mae fy ngŵr yn gweithio fel peiriannydd cemeg a dw i’n gweithio fel cyfieithydd gyda phobl sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Dw i ddim yn gweithio bob dydd oherwydd dw i wedi hanner ymddeol nawr. Mae fy ngwaith weithiau ar-lein ac weithiau wyneb i wyneb, ac yn ddiddorol iawn. Dw i’n hoffi canu piano a mynd i’r capel.

Anne Foster

Anne dw i. Dw i’n dysgu Cymraeg ers mis Medi’r llynedd efo’r ap Duolingo a chwrs ar-lein y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd. Mae 10 o ddysgwyr yn y dosbarth, o Loegr, o’r Alban ac o Gymru. Mae’r cwrs yn wych (a dim yn ddrud!), mae’r tiwtor a’r dysgwyr yn neis iawn a dyn ni’n cael llawer o hwyl.

Dw i’n byw yn Lloegr a dyna pam dw i angen mwy o gyfleoedd i siarad Cymraeg. Yn ddiweddar mi es i ar gwrs undydd yn y Ganolfan Cymraeg yn Llundain. Roedd o’n grêt! Mi wnes i fwynhau’n lân gallu siarad efo pobl yn yr un ystafell!

Dw i’n gallu siarad Ffrangeg, Almaeneg a thipyn bach o Rwsieg ond dw i’n ffeindio Cymraeg yn fwy anodd, ac ar yr un pryd, yn haws na nhw. Mwy anodd o achos y treigladau

a’r tafodieithoedd, yn haws o achos mae’n normal ac yn dderbyniol i siarad Saesneg a Chymraeg weithiau yn yr un frawddeg!

Jane Trevelyan

Helo, Jane dw i. Dwi i’n byw yng Ngogledd Cymru, mewn dref o’r enw Tywyn, yng Gwynedd. Mae fy nhŷ mewn teras. Dwi i wedi ymddeol ers pum mlynedd. Ron i’n gweithio fel gofalwr i hen bobl.

Fy hoff peth yw ysgrifennu cerddi yng Nghymraeg a garddio. Mae gen i dri o blant. Richard, Sarah a Rachel. Mae fy mab yn byw yn Beirut, mae Sarah yn byw yn Llundain, a Rachel yn bwy ym Malaga, Sbaen. Mae gen i ddwy wyres, Isabel a Noko, yn eu hugeiniaid.

Amanda Webber

Amanda dw i. Dw i’n byw yn Aberdâr ond ro’n i’n arfer byw yn Ffrainc. Dw i’n dysgu Cymraeg (lefel mynediad) yng nghwb rygbi Aberdâr gyda Learn Welsh Glamorgan. Kathy yw’r tiwtor ac mae hi’n fendigedig!

Dw i’n hoffi dysgu Cymraeg ond mae rhaid i fi ymarfer mwy! Does dim hyder gyda fi yn anffodus.

Ro’n i’n arfer addysgu Ffrangeg ond dw i wedi ymddeol nawr. Ond mae dau stondin yn farchnad Aberdâr gyda fi – The Wool Stall a Blas ar Gymru. Dw i’n gwerthu gwlân a phethau Cymreig fel bwyd, anrhegion, cardiau a llawer mwy!

Adar

gan Ann Mutton

Pan dwi’n cerdded i’r dref dw i’n defnyddio llwybr cyhoeddus sy’n mynd wrth ymyl y coed ble mae’r adar yn canu yn uchel.

Mae’r aderyn du’n chwilio am fwyd, ond pan dw i’n cerdded mae’n hedfan i ffwrdd gan rybuddio adar du eraill gyda galwad swnllyd. Ond mae cân yr aderyn du’n felodaidd iawn, a gellir eu clywed yn y coed. Un tro, ar ôl i’r glaw orffen, gwelais i fronfraith fawr yn canu ar ben ei lais ar gangen coeden, mae’r gân yn hyfryd a chafodd ei ganu dwywaith. Wrth gwrs clywir adar y to yn clebran o ganol y gwrych. Hefyd mae adar bach eraill sy’n debyg iddyn nhw ond gyda mantell lwyd, yn clebran o’r gwrych: llwyd y gwrych. Rhai wythnosau yn ôl clywais ryw gân felodaidd iawn pan gerddais i lawr y llwybr ac wythnos yn ôl gwelais i ddau aderyn bach, bron llwyd gyda phen du: Pen du. Roeddwn i’n hapus iawn i’w gweld nhw, ymwelwyr o’r Almaen a gogledd Ewrop. Achos eu cân hyfryd gelwir nhw “The Northern Nightingale”. Ar waelod y llwybr a dros bont y nant mae glaswellt ble mae jac y do’n tyrru i chwilio am abwydyn ar ôl y glaw. Rydw i wedi cyfrif ugain ohonyn nhw yn aml iawn.

Yn ystod y nos pan dw i yn fy ngwely dw i’n gallu clywed sŵn y dylluan frech pan mae’n chwilio am bartner. Sŵn annaearol. Ambell waith dw i wedi clywed sŵn annaearol arall, efallai tylluan wen. Ac yn ystod y dydd mae bwncathod yn hedfan o gwmpas yn yr awyr las ac yn galw at ei gilydd.