Darllen a Dysgu | Reading & Learning – Articles Level 4

Wennol - Darllen a Dysgu - Lefel 4
Darllen a Dysgu – Lefel 4

Wyverne Smith

Wyverne dw i. Dw i’n byw yn Awstralia. Dw i’n dysgu Cymraeg achos daeth fy mam-gu a fy nhad-cu o Gaerdydd, amser maith yn ôl. Aeth fy chwaer a fi i Gymru tua deg mlynedd yn ôl. Ffeindion ni tŷ Mam-gu a Thad-cu. Treulion ni pedwar diwrnod ar fad ar y gamlas. Wedyn, aethon ni i Langollen i’r Eisteddfod Ryngwladol. Roedd y gerddoriaeth yn fendigedig a phan oedd y bobl yn canu “Hiraeth”, ro’n i’n crio.

Wedyn crwydron ni yn y mynyddoedd ac ymweld â llawer o bentrefi.

O’n i’n wrth fy modd efo’r wlad, y bobl a’r iaith. Penderfynes i ddechrau dysgu Cymraeg. Dechreuais i ddefnyddio cwrs ar dâp, wedyn “Say Something in Welsh”, hefyd, ymunes â llawer o gylchoedd sgwrsio.

Wedyn, yn 2023, es i i Gymru eto, ar fy mhen fy hun. Ces i amser da iawn. Arhoses i yng Ngarth Newydd, Llanbedr, am bythefnos a wnaeth fy Nghymraeg wella (tipyn bach!). Dywedodd fy ffrindiau wrtha i y dylwn i astudio drwy gwrs “Dysgu Cymraeg”. Wnes i ddechrau ond oedd rhaid i mi stopio oherwydd y gwahaniaeth amser.

Rŵan, dw i’n gwneud “Say Something in Welsh” eto. Dw i’n sgwrsio yn y Gymraeg efo ffrindiau yng Nghymru, Lloegr a hefyd yn Awstralia bron bob nos. Dw i’n darllen llyfrau Cymraeg. Dw i wedi dod o hyd i Gymraes sy’n byw yn agos at fy nhŷ. Mae hi’n siarad Cymraeg yn rhugl! Dw i wrth fy modd yn ymweld â hi. Mae hi’n helpu fi’n fawr iawn.

Dw i’n hoffi cerddoriaeth a dw i’n arwain côr yn fy mhentref. Yn ein cyngerdd ni’n ddiweddar, wnaethon ni ganu “Anfonaf Angel”. Roedd yn brydferth.

A gyda llaw, dw i’n wyth deg oed!

Blodyn gobaith

gan Jay Ramsurrun

Dw i wrth fy modd yn gweld pennau cennin Pedr yn sbecian allan o’r ddaear ym mis Ionawr. Erbyn Dydd Gŵyl Dewi mae bron bob rhan o Gymru wedi’u gorchuddio â blodau melyn.  

Mae rhywbeth hudolus am gennin Pedr. Mae’r bylbiau’n gaeafgysgu o dan y ddaear am o leiaf 6 mis. Maen nhw’n dioddef y tywydd gwaethaf ond maen aros yn gudd o’r golwg. Yna ym mis Ionawr, maen nhw’n deffro ac yn dechrau tyfu.  

Dw i’n hoffi gweld y blagur yn ymddangos ar yr wyneb. Dyma wawr y gwanwyn i mi. Yna un bore ym mis Chwefror/Mawrth, fe welwch gloch felen wedi’i hamgylchynu gan betalau melyn yn gwenu arnoch chi. Mae fel bod nhw’n dweud, “Dyma fi i ti, eto. Edrych arnaf a charu fi.”

Mae llawer o resymau pam y daeth y cennin Pedr yn flodyn cenedlaethol Cymru. Ond i mi, mae hyn oherwydd yr hyn y mae’n ei symboleiddio. Ni allaf ond dychmygu caledi bywyd yn y gorffennol. Daeth y daffodil yn symbol o’u brwydr eu hunain. Daeth yn symbol o oroesiad, gobaith, amynedd, dewrder, mawredd, a balchder.

Does dim rhaid i ni heddiw boeni am galedi bywyd fel y gwnaeth y Cymry cyn-ddiwydiant. Ond rydym yn dal i garu gweld y blodau melyn sy’n ymweld â ni bob blwyddyn heb fethu. Maen nhw’n dod â llawenydd i’r galon, maen nhw’n gwenu arnom ni ac rydyn ni’n gwenu arnyn nhw. Maen nhw’n agor y llenni i fywyd heulog am ychydig fisoedd.

Hir oes i’r genhinen Pedr.

Yna ac yn ôl, mewn diwrnod

gan Dewi ap Dafydd

Dw i’n byw yn Swydd Efrog, yn Lloegr (neu, fel dw i’n hoffi dweud, ‘Teyrnas Elmet o gwmpas dinas hynafol Efrog yn yr Hen Ogledd’), mae Cymru yn gorwedd nid yn unig dros y ffin ond hefyd ochr arall y Penwynion. Weithiau, mae hi’n ymddangos yn bell i ffwrdd, yn enwedig pan mae hi’n bwrw glaw neu eira, neu yn niwlog. Beth bynnag, dyn ni’n teithio, fy ngwraig a finnau, i Gymru yn aml, ar gyfer penwythnosau neu am lond llaw o ddyddiau. Ond, hyd at Nadolig 2024 dyn ni erioed wedi gwneud y daith mewn un diwrnod yn unig. Sef, draw i Gymru o adra ac wedyn yn ôl o fewn diwrnod. Y ‘Dolig ‘ma, gwnaethon ni hyn o’r diwedd!

Dyma ein hantur fach ni. Gadael y tŷ am chwarter i chwech yn y bore, i lawr yr M62, gyda chwmni Radio Cymru wrth gwrs, a gyda thipyn o doriad yng Ngwasanaethau Caer ar yr M54 am tua hanner awr wedi saith. Toriad byr am goffi a thipyn o ddarllen yn y Gymraeg i baratoi ein meddyliau am y diwrnod. Ac wedyn, i Gymru, yn pasio’r arwydd sy’n dweud ‘Croeso i Gymru’ ar y A55 jyst cyn cyffordd 36A. Yn syth i’r Wyddgrug, tref hyfryd lle mae’r caffis ar agor yn y bore a lle roeddwn ni wedi trefnu i gwrdd â ffrindiau Cymraeg yn y dref. Amser gwych iawn gyda’n ffrindiau ac wedyn, ta-ta Cymru – yn ôl dros y ffin. Ond dim yn ôl i Loegr eto. Apwyntiad gyda ffrind arall sy’n byw yng Nghaer. Tipyn o sgwrs, tipyn o ginio, cwmni da, chwerthin a cherdyn Nadolig.

Ac wedyn, mynd adref. Roedd yr M62 yn glir a chyn pedwar o’r gloch, dyma ni, yn ôl adref. Tua deg awr o daith, llawn o brofiad Cymreig a Chymraeg. Fel dwedais i, dyma ein tro cyntaf i deithio a dychwelyd mewn dydd ac roedd hi’n llwyddiant mawr. Dyn ni’n edrych ymlaen at ail-wneud yr holl beth yn fuan. Mae Cymru yn agosaf nag o’n i’n meddwl!

Nadolig: Cyn ac Wedi

gan Peter Ball

Mae’n amlwg fod Nadolig yn dod pan mae’r tywydd yn Nhasmania yn fwy poeth nac ym Mhrydain, ac mae pobl yma yn bwyta bwydydd gwahanol – er enghraifft cimwch a salad ffrwyth yn lle twrci a phwdin eirin – ac yn arferol yn bwyta dan gysgod rhyw goeden neu mewn llecyn ar y traeth.

Serch hynny, mae rhywbeth arall, llai amlwg, sydd wedi cymryd llawer o flynyddoedd i mi sylwi. Yn Awstralia mae’r flwyddyn ysgol, prifysgol a masnach yn dechrau ym mis Chwefror ac yn dod i ben ym mis Rhagfyr. Oherwydd mai hynny yw’r arfer cenedlaethol, yn ystod y misoedd Hydref, Tachwedd a Rhagfyr mae’n rhaid i bawb gwpla popeth mewn pryd, cyn Nadolig a chyn y Gwyliau Haf: cymaint o gyngherddau (gan gynnwys ymarferion), adroddiadau athrawon, penodiadau meddygol (gan gynnwys profion gwaed, pelydrau-x, gwahanol scans.) Mae’r cyfnod yn brysur dros ben.

Ac ar ôl y Dolig? Wel, mae Gŵyl San Steffan, Dydd Calan a’r arwerthiannau wrth gwrs. Ym Mhrydain bant â phawb i’r gwaith. Dim yr un peth yn Nhasmania: bant â ni yn syth i’r traeth, i nofio neu hwylio, i chwarae neu wylio’r criced a thenis. Mae’r strydoedd yn y dre braidd yn dawel, ac mae’r gwyliau’r haf yn parhau tan fis Chwefror.

Ac wedyn, mae popeth yn mynd yn ôl i normalrwydd.

Helen Howells

Shw mae pawb!

Helen dw i. Dw i’n dod o Langynwyd o ble mae’r ‘Ferch o Gefn Ydfa” yn dod, a’r gân “Bugeilio’r Gwenith Gwyn”.

Roedd fy mam-gu yn siarad Cymraeg â fi pan o’n i’n ifanc ond gwnaeth hi stopio pan ro i’n bedair oed ac yn mynd i’r ysgol.

Dw i wedi bod yn dysgu sut i siarad Cymraeg am bedair blynedd gyda Phrifysgol Abertawe ar Zoom. Mae ein tiwtor ni yn wych a’n grŵp ni yn fendigedig.

Dyn ni’n siarad yn Gymraeg gyda’n gilydd am beth dyn ni wedi gwneud cyn i ni ddechrau’r wers.

Dw i newydd benderfynu ddechrau ‘Siawns am Sgwrs” i ymarfer siarad Cymraeg mwy, a dw i’n edrych ymlaen at hynny.

Mae’r wythnos yma wedi bod yn brysur iawn achos mae fy nghefnder yn aros gyda ni. Mae e’n dod o Awstralia ac mae e wedi bod yn byw yn Llundain am ugain mlynedd ond dydy e ddim wedi ymweld â Chymru o’r blaen. Felly aethon ni i “Pwll Mawr”, Aberfan, a Sain Ffagan. Mwynhaodd ei hun yn fawr iawn.

Dyna i gyd am y tro ond bydda i’n ysgrifennu eto.

Achos, dw i’n mwynhau dysgu Cymraeg yn fawr iawn a pan dw i’n ysgrifennu dw i’n gwybod mae o’n helpu fi.

Nigel Mann

Mi ges i fy ngeni a’m magu yn Llanelli. Rydw i wedi byw yn Ninas Wrecsam ers blynyddoedd nawr. Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Mi fydda i’n dechrau ar y Cwrs Canolradd ym mis Medi, efo fy ngwraig Geraldine.

Dw i wedi ymddeol, ond roeddwn i’n athro Cemeg am dri deg pum mlynedd. Dw i’n mwynhau’r rhyddid o ymddeol ond dw i’n colli dysgu ychydig bach – ffrindiau gwaith, myfyrwyr a ergydion a fflachiadau yn y Lab!

Hefyd, roeddwn i’n Swyddog yn y Fyddin wrth Gefn am dri deg saith mlynedd, hyd yn oed fwy o ergydian a fflachiau! Yn y fyddin, dw i wedi gweld llawer o bethau bendigedig ym myd natur; Y Goleuadau Gogleddol, eirth gwyllt, lincs, crwbanod y môr, dolffiniaid, hyd yn oed mongws yn dwyn siocled! Hefyd, gwasanaethais yn Bosnia (1996) ac Iraq (2003-04). Yno, roeddwn i’n dysgu beth syn bwysig yn fy mywyd.

Kerys Whitley

Helô pawb! Kerys dw i. Dw i’n byw ym Maes-glas sy’n bentre’ tua milltir i ffwrdd o Dreffynnon. Dw i’n dysgu Cymraeg ers bron i ddwy flynedd a wnes i sefyll yr arholiad Sylfaen yn ddiweddar. Dw i’n gobeithio dechrau cwrs Canolradd ym mis Medi, ond mae’n dibynnu ar ganlyniad yr arholiad. Croesi bysedd!

Ro’n i’n teimlo braidd yn drist pan orffennodd fy nghwrs Sylfaen ond bydda i’n defnyddio fy Nghymraeg mewn sawl ffordd dros yr haf. Bydda i’n mynd i sesiynau sgwrs yn llyfrgell Treffynnon ddwywaith y mis. Mae’n gyfle gwych i gyfarfod â phobl o bob lefel a gwneud ffrindiau newydd. Yn ystod y sesiynau, dan ni’n defnyddio cardiau cwestiwn sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer cychwyn sgwrs. Weithiau, dan ni’n defnyddio map mawr o Gymru i siarad am le dan ni wedi bod ar wyliau a lle roedden ni’n arfer byw.

Yn ystod amser paned, dan ni’n cymryd rhan mewn cwis hwyliog neu siarad yn rhydd efo’n gilydd. Mae’n medru bod yn anodd ffeindio cyfleoedd i ymarfer siarad, yn enwedig dros yr haf. Felly, os dach chi isio ymarfer eich Cymraeg, mae croeso mawr i chi ymuno â ni yn llyfrgell Treffynnon ar y cyntaf a’r trydydd dydd Gwener o bob mis, o 2 tan 4 yn y prynhawn.

Bydda i’n gwneud pethau eraill i wella fy sgiliau, wrth gwrs. Dw i ddim yn hoff o edrych ar y teledu fel arfer, ond mi wna i wylio ‘Am Dro’ a’r rhaglenni am natur achos dw i’n hoff iawn o fynd am dro yng nghefn gwlad a chwilio am fywyd gwyllt.

Dw i’n edrych ymlaen at ddarllen yn yr ardd gefn. Gobeithio bydd y tywydd yn braf ym mis Awst achos mae gen i bentwr mawr o lyfrau Cymraeg sy wedi tyfu’n fwy ac yn fwy dros y flwyddyn ddiwethaf. Dw i’n meddwl am gadw dyddiadur neu ddechrau blog personol ar-lein achos, yn y dyfodol, baswn i wir yn hoffi sgwennu nofel ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Rhaid i mi wella fy Nghymraeg a fy sgiliau sgwennu’n gyntaf. Dw i wir ddim yn barod am y fath beth ar hyn o bryd ond dw i’n medru breuddwydio. Dylwn i chwilio am wersi ysgrifennu creadigol falle.

Beth bynnag, mwynhewch eich Cymraeg dros yr haf, peidiwch â phoeni gormod am gamgymeriadau neu’r treigladau. Dim ond rhaid i ni fynd amdani a gwneud ein gorau glas!

Mae’n wych dysgu Cymraeg

Neville Eden

Helo pawb, Neville dw i. Mi ges i fy ngeni yn Lloegr. Does gen i ddim cysylltiad â Chymru o gwbl, ond dw i wedi bod ar wyliau yng Ngogledd Cymru yn rheolaidd ers mwy na phedwar deg mlynedd. Saith mlynedd yn ôl penderfynon fy ngwraig a fi symud o Sandbach yn sir Gaer i Abergele yng Ngogledd Cymru.

Dw i wedi teithio i lawer o wledydd ar gyfer fy ngwaith ac ar wyliau hefyd a phob tro dw i wedi ceisio dysgu ychydig o eiriau yn yr iaith leol, felly achos dw i’n byw yng Nghymru rŵan o’n i’n penderfynu roedd rhaid i fi ddysgu Cymraeg. Roedd hi’n benderfyniad amlwg i fi.

O’n i’n dechrau dysgu efo “DuoLingo” a dw i dal yn defnyddio’r ap bob bore i ymarfer a chadw Cymraeg yn llifo yn fy mhen. Dechreuais i ddysgu trwy “dysgucymraeg.cymru” efo cwmni o’r enw “Popeth Cymraeg” o Ddinbych. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, ar ddechrau’r haf o’n i’n poeni am anghofio popeth dros yr haf, felly dechreuais i ddysgu efo “Say Something in Welsh”. Roedd hynny’n rhaglen wych ac yn helpu fi godi hyder mewn siarad Cymraeg yn uchel.

Dw i dal yn dysgu efo “Popeth Cymraeg” bob wythnos a dros y blynyddoedd dw i wedi ceisio taflu fy hun i mewn i bob cyfle i ymestyn fy hun tu allan i fy “comfort zone”. Dw i wedi bod ar lawer o benwythnosau sy wedi cael eu trefnu gan ffrind sy’n rhedeg gwefan https://paned.cymru/collections/welsh-days-out-and-courses. Yn ychwanegol, dw i wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg cyfoes ac mae’n helpu fi i wrando ar wahanol eiriau ac ymadroddion a cheisio eu deall. Fy hoff fand ar hyn o bryd ydy ‘Bwncath’ a dw i wedi gweld nhw yn fyw sawl gwaith yn cynnwys yn yr Eisteddfod ddiwethaf ym Mhen Llyn.

Dw i wedi ceisio llawer o ffyrdd i ddatblygu fy Nghymraeg a dw i wedi bod yn ceisio ysgrifennu barddoniaeth hefyd. O’n i’n arfer trio ysgrifennu barddoniaeth yn Saesneg cyn i fi ddechrau dysgu Cymraeg, ond dw i’n cael mwy o ysbrydoliaeth gan yr hen iaith a gan y diwylliant Cymraeg. Mae hi’n deimlad arbennig iawn i fi. Mae hanes Cymraeg yn llawn o straeon hyfryd ac yn ysbrydoledig.

Dydy’r daith dysgu Cymraeg ddim yn fyr, ond mae’n werth chweil, ac “rhaid cropian cyn cerdded” fel maen nhw’n dweud…

Geraldine Mann

Mi ddylwn i fod wedi gwisgo côt gynhesach, roedd hi’n heulog ond yn oer. Roedd hi’n swnllyd hefyd ond yn hwyl. Roedden ni’n cerdded trwy ganol dinas Wrecsam efo llawer o bobl a oedd yn gwenu a chwifio baneri Cymru. Mi welon ni Seremoni Gorseddu’r  Archdderwydd Mererid yn Llwyn Isaf. Wedyn mi ganon ni Hen Wlad fy nhadau efo’n gilydd.

Bydd croeso cynnes i bawb y flwyddyn nesaf oherwydd bydd yr Eisteddfod yn Wrecsam !!

Helo Geraldine dw i. Dw i’n dysgu Cymraeg efo fy ngŵr, Nigel. Dan ni’n dysgu yng Ngholeg Cambria, Wrecsam ers bron ddwy flynedd. Mi ges i fy ngeni yn Iwerddon a mi gaeth Nigel ei fagu yn Llanelli. 

Dyddiadur Maisie,

Y Gath Orau o Fathri (yn ôl Maisie)

Yn perthyn i Sarah Price

Wel dyma ni, un gath yn cael sylw yn Y Wennol ac mae rhaid i’r chwaer cael sylw rŵan. Na fydda i’n gwneud hyn fel arfer ond, wrth ystyried iechyd Sarah a Keith, (a chyflwr y carped) roedd rhaid i mi gynnwys stori Maisie yn y rhifyn yma!

Dydd Llun

Dihunais i am chwech o’r gloch. Clywais i Molly, fy chwaer, yn crafu’r carped. Siŵr o fod mae hi wedi crafu fe am sbel cyn i fi ei chlywed hi. Mae hi’n ddrwg iawn! Dw i byth yn gwneud pethau fel ’na – wel, bron byth. Mae e’n ddefnyddiol bod hi’n crafu’r carped, beth bynnag, achos mae Keith yn codi ac yn bwydo ni. Mae ‘Felix’ gyda thiwna ar y fwydlen – blasus iawn. Mae e’n bwysig bwyta cyn gynted â phosib er mwyn gwthio Molly mas o’i dysgl a gorffen ei bwyd hi. Yn anffodus, y dyddiau ‘ma, mae Molly’n gwybod yn union beth sydd yn fy meddwl ac mae hi’n bwyta cyn gynted â phosib hefyd. Mae e’n siomedig iawn.

Ar ôl brecwast ro’n i’n hela Molly o gwmpas ein tŷ ni. Roedd e’n ddoniol iawn i’w gweld yn rhedeg o gwmpas y tŷ yn wallgo’. Ar ôl hynny roedd e’n amser i fynd allan i chwilio am lygod, ond doedd dim llygod eisiau chwarae gyda fi heddiw achos roedd hi’n bwrw hen wragedd a ffyn (dw i’n hoff iawn o’r ymadrodd ‘ma – yn fy marn i, dyw ‘raining cats and dogs’ ddim yn gwneud synnwyr o gwbl!), felly roedd e’n amser cysgu tan i ni gael swper am chwech o’r gloch. Ar ôl swper roedd Molly a fi’n cysgu’n dawel o flaen y tân. Mae e’n berffaith i orffen diwrnod prysur o flaen y tân.

Dydd Mawrth

Wel, yr un peth y bore ‘ma. Ro’n i’n dihuno pan oedd fy nghloc larwm, sef Molly, yn crafu’r carped. Mae Keith wastad yn codi yn gyntaf. Dw i’n meddwl bod Sarah yn ddiog iawn – dw i ddim wedi gweld hi cyn wyth o’r gloch erioed!! (Dyw hyn ddim yn deg o gwbl, Maisie – Sarah.) Ceisiais i fwyta cyn gynted â phosib fel arfer ond, yn anffodus, roedd Molly’n gwneud yr un peth hefyd, felly doedd dim bwyd ychwanegol i fi.

Heddiw roedd y tywydd yn heulog, felly ro’n i’n hela Molly allan o’r ‘catflap’, o gwmpas yr ardd ac, o’r diwedd, nôl i’r tŷ. Ar ôl ‘na, ro’n i’n chwilio am lygod yn ar ardd ond dim ond gwiwer gwelais i yn dringo coeden yn gyflym iawn (ta beth, do’n i ddim eisiau chwarae gyda fe achos dw i wedi clywed bod gwiwerod yn cnoi). Yn y diwedd, diwrnod arall o fwyta a chysgu o flaen y tân oedd heddiw.

Bywyd llawn o straen yw bywyd Molly a fi!

A dyna chi, Sarah a Keith, cewch chi heddwch rŵan – gobeithio!

Fy Nhaith yn y Gymraeg

Hyd yn Hyn

gan Dixey Brooks

 Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn anodd i mi, ac yn dal i fod, hyd yn oed ar ôl bron i bedair blynedd o astudio’r iaith ddirgel yma gyda Say Something in Welsh a Duolingo. Dw i’n siarad Saesneg, Eidaleg, Sbaeneg a Ffrangeg yn rhugl, a rhywfaint o Roeg, tair o’r ieithoedd hynny o blentyndod. Sbaeneg a Groeg dysgais fel oedolyn yn rhwydd. Mae’r ieithoedd hynny’n gyfarwydd, yn reddfol, ac yn hawdd eu dysgu a’u deall.

Ond peth arall yw’r Gymraeg! Dw i wedi bod yn byw yng Ngheredigion ers 13 mlynedd, a bob dydd pan dw i’n mynd i’r dref, (Llanbedr Pont Steffan), dw i’n clywed Cymraeg yn cael ei siarad o’m cwmpas. Eto i gyd ar ôl bron i bedair blynedd o astudio, dw i’n deall ychydig iawn o’r hyn y mae pobl o’m cwmpas yn ei ddweud er fy mod yn gallu dweud llawer o bethau. Dwi’n dechrau gallu ei ddarllen, ond os dwi’n gwrando ar BBC Radio Cymru dwi’n deall bron dim.

Dw i’n siarad Cymraeg gyda phobl yn y siopau ac maent yn galonogol, ond dw e ddim yn ddigon. Yn fy mywyd bob dydd mae siaradwyr Saesneg o’m cwmpas. Mae grŵp sgwrsio misol yn Llambed ond mae bron bob amser yn digwydd pan dw i ddim yn rhydd. Hoffwn i gyfarfod unwaith neu ddwywaith yr wythnos gyda siaradwr Cymraeg, dros baned mewn caffi! Byddai hynny’n help mawr, dwi’n meddwl.ynny’n help mawr, dwi’n meddwl.