
Harvey Fudge
Helo, Harvey Fudge dw i. Dw i wedi byw yn Chulmleigh, tre fach, yn Nyfnaint ers 2022. Wnes i symud yma o Ddyffryn Conwy lle ro’n i wedi byw ers 2005 a le wnes i ddechrau dysgu Cymraeg. Dw i wedi ymddeol rŵan ac yn byw efo fy ngwraig, Roberta.
Kim Fenton
Kim dw i, dw i’n mynd i’r dosbarth Cymraeg ym Mhontardawe. Nadine yw’r tiwtor. Dw i wedi ymddeol felly dyna pam mae gen i amser i ddysgu Cymraeg. Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers mis Ionawr. Dw i’n byw yn Blackpill, ond dw i’n dod o Manselton, Abertawe.
Dw i’n hoffi dawnsio tap, darllen llyfrau, crochenwaith a bwyta siocled! Rwy’n briod ac mae gen i un ferch. Mae dau gi gyda fi o’r enw Lola a Freddie. Ydych chi’n hoffi mynd â chŵn am dro? Dw i’n hoffi amser paned ond dw i’n brysur yn paratoi i fynd ar wyliau yn Sri Lanka! Lwcus fi!
Gobeithio eich gweld yn fuan.
Wendy James
Fy enw i yw Wendy James. O Lundain oeddwn i’n dod yn wreiddiol. Es i Ysgol Feddygol Cymru yng Nghaerdydd yn 1976. Dwi’n byw yn Llechryd ger Aberteifi gyda fy ngŵr, Dyfed. Cymraeg yw ei iaith gyntaf. Mae’n bwysig i fi ymarfer siarad Cymraeg i gael sgyrsiau gydag ein tri ŵyr Cymraeg sy’n byw yn Nantgaredig ger Caerfyrddin. Dw i wedi ymddeol fel meddyg teulu a nawr dw i’n treulio llawer o amser yn gweithio gydag adar yma yng ngorllewin Cymru ac yn Affrica ddwywaith y flwyddyn.
Carolyn Evans
Ces i Nadolig hyfryd gyda fy nheulu. Roedd fy mab hynaf adref o’r brifysgol ar ôl tri mis i ffwrdd. Roedd yn hyfryd i fod gyda’n gilydd a chwrdd â ffrindiau.
Ar ôl Nadolig, hedfanon ni i Madeira a gwneud llawer o gerdded. Nos Galan yn Madeira yw’r gorau yn y byd. Mae llawer o longau mordaith yn dod i fewn i’r borthladd i weld y tân gwyllt. Mae nhw’n ysblennydd.
Mae’r tymheredd yn hyfryd trwy gydol y flwyddyn felly mae mor braf i ddianc rhag yr oerfel.
Pam Hollinshead-Jones
Fy enw i yw Pam, rwy’n briod ag Alan sy’n hanner Gymro. 33 mlynedd yn ôl addewais i fy mam yng nghyfraith newydd y byddwn yn dysgu iaith y Nefoedd – wel dw i dal yn dysgu! Mae fy sgiliau sgwrsio yn wael, ond mae darllen ac ysgrifennu yn gwella.
Rwy’n mwynhau darllen Y Wennol ac mae’n sicr yn fy herio. Rwy’n helpu i gynnal Caffi Cymraeg yn ein heglwys leol, a fynychir gan ddysgwyr a Chymry Cymraeg. Mae bob tro yn hwyl!
Caroline Rees-Williams
Helo Pawb. Caroline dw i. Dw i’n byw yn Sili ym Mro Morgannwg gyda fy ngŵr. Mae gen i bedwar o blant a dau o wyrion.
Dw i wedi ymddeol nawr ond gweithiais i fel cynorthwyydd addysgu. Dw i’n colli siarad ‘Cymraeg dosbarth’ bob dydd yn yr ysgol felly dw i’n gwneud cwrs Cymraeg i Oedolion – Mynediad 2 ar hyn o bryd.
Dw i’n mwynhau y gwersi wyneb yn wyneb a sgyrsiau mewn grwp Coffi a Clonc yn y llyfrgell bob wythnos.
Dw i’n gwirfoddoli yn y llyfrgell gymunedol hefyd. Yn ffodus dw i’n hoffi darllen!
Lauren Marbrow
Fy enw i yw Lauren. Dw i’n byw ger Abercych, rhwng Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi. Mae un ferch ac un mab gyda fi. Mae fy merch yn saith oed a fy mab yn pedair oed. Hefyd, mae un ci gyda fi, ei enw yw Kenny ac mae’n Cocker Spaniel.
Dw i’n gweithio fel Ffisiotherapydd – roeddwn i’n arfer gweithio mewn ysbyty ond dw i’n gweithio gartref nawr mewn clinig preifat.
Dw i’n mwynhau mynd â’r plant i’r traeth a mynd i redeg gyda fy nghi.
Ar gyfer fy mhen-blwydd eleni, cerddais “The Golden Road” ar draws bryniau’r Preseli – roedd yn hardd ac roedd y tywydd yn garedig – oer ond heulog. Diwrnod perffaith!
Carol Wright
Carol dw i. Ces i fy ngeni a fy magu yn yr Alban. Siaradais i Saesneg, a dysgais i Ffrangeg ac Almaeneg yn yr ysgol ac yn y brifysgol. Dw i byth wedi siarad Gaeleg, achos doedd pobl yn fy ardal ddim yn siarad Gaeleg.
Dw i’n byw yn Lloegr ers llawer o flynyddoedd. Pam dw i’n dysgu Cymraeg? Wel, deg mlynedd yn ôl es i i Ben Llŷn yng Ngogledd Cymru am y tro cyntaf. Clywais i gymaint o bobl yn siarad Cymraeg heb i fi ddeall un gair. Ro’n i’n meddwl y dylwn i ddysgu’r iaith, ond doedd gen i ddim amser tan y cyfnod clo. Dechreuais i gyda Choleg Gwent, ac ym mis Medi bydda i’n parhau gydag Uwch 1.
Dw i’n dwlu ar Gymraeg a dw i’n edrych ymlaen at fy nhaith nesa i Ben Llŷn.
Margo Aderyn
Shw mae. Margo dw i. Dw i’n byw yn y Canolbarth, ym Mhowys. Weithiau dw i’n hoffi ymweld â lleoedd diddorol neu hardd. Roedd y tywydd yn fendigedig y penwythnos diwethaf felly es i i Sgwd Henrhyd – achos dw i erioed wedi bod yna.
Mae’r llwybr yn brydferth ond ddim yn hawdd iawn i bawb, a dweud y gwir roedd e dipyn bach yn heriol i fi – nodyn i fi fy hun: paid ag anghofio dy ffyn gerdded ar gyfer y daith cerdded nesa!
Roedd sawl dyn yn nofio pan gyrhaeddais i’r rhaeadr. Roedd y dŵr yn oer iawn! Ond roedd y lle yn anhygoel.
Dôn i ddim yn gwybod bod y llwybr yn arwain y tu ôl i’r rhaeadr. O’ch chi’n gwybod hynny?
Cymerais lun i ddangos y lle i chi.
Taith Gerdded
gan Joan Cooper
Dw i’n dysgu Cymraeg ac yn mynd i’r grŵp Cymraeg yn Newton lle dw i’n clywed pobl yn siarad â phob hyn a hyn dw i’n cyfrannu.
Dw i’n hoffi cerdded a dydd Sadwrn diwethaf es i am dro yn ardal y marina yn Abertawe gyda dysgwyr eraill, y tro cyntaf i mi fynd. Roedd hi’n dwym ac yn heulog ac roedd pawb yn mwynhau’r sgwrsio.
Ar ôl y daith aethon ni i’r caffi a chael paned yn yr haul.
Gwnes i fwynhau fy hun a dw i’n edrych ymlaen at ddydd Sadwrn nesaf!
