{"id":431,"date":"2025-04-30T19:35:57","date_gmt":"2025-04-30T19:35:57","guid":{"rendered":"https:\/\/wennol.cymru\/?page_id=431"},"modified":"2025-04-30T19:35:58","modified_gmt":"2025-04-30T19:35:58","slug":"darllen-a-dysgu-reading-learning-articles-level-2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/darllen-a-dysgu-reading-learning-articles-level-2\/","title":{"rendered":"Darllen a Dysgu | Reading &amp; Learning &#8211; Articles Level 2"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"300\" src=\"https:\/\/wennol.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/Swallow-with-Book-Lefel-2-300x300.png\" alt=\"Wennol - Darllen a Dysgu - Lefel 2\" class=\"wp-image-408\" srcset=\"https:\/\/wennol.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/Swallow-with-Book-Lefel-2-300x300.png 300w, https:\/\/wennol.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/Swallow-with-Book-Lefel-2-150x150.png 150w, https:\/\/wennol.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/Swallow-with-Book-Lefel-2-768x768.png 768w, https:\/\/wennol.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/Swallow-with-Book-Lefel-2.png 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Darllen a Dysgu &#8211; Lefel 2<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-28f84493 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p><strong>Cath Dhanjal<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cath Dhanjal dw i. Dw i\u2019n byw yn Lloegr, rhwng Bryste a Chaerfaddon. Dw i\u2019n dysgu Cymraeg ers mis Ebrill 2022. Cymraes yw fy mam i, ond dyw hi ddim yn siarad Cymraeg. Ond, mae hi\u2019n gallu canu\u2019r anthem genedlaethol! Dw i\u2019n trefnu dau gr\u0175p sgwrsio yn yr ardal ers mis Medi 2022 achos doedd gen i ddim cyfle i siarad Cymraeg. Dyn ni\u2019n cwrdd un prynhawn bob mis yng Nghaerfaddon, ac un noson bob mis yn Keynsham (De Bryste).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dysgwyr gyda ni yn y grwpiau a phobl sy\u2019n siaradwyr naturiol hefyd. Eleni dw i\u2019n dysgu lefel Uwch 1 mewn blwyddyn, ar lein gyda DysguCymraeg Ceredigion. Dw i\u2019n edrych ymlaen at fynd i aros yn Nant Gwrtheyrn ym mis Mehefin am wythnos! Es i Benrhyn Ll\u0177n i fynd i\u2019r Eisteddfod am y tro cyntaf yn 2023, roedd rhywbeth arbennig i gael cyfle i amsugno diwylliant a cherddoriaeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Arhosais i mewn bwthyn ar fferm defaid ger Llangian gyda fy nghyfnither a\u2019i phartner sy\u2019n siarad Cymraeg yn rhugl. Dwedodd y ffermwr mai dyma\u2019r tro cyntaf iddo gael ymwelwyr oedd yn siarad Cymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i\u2019n falch iawn o fy nghyfnither Jane Burnard &#8211; mae hi\u2019n cyfieithu llyfrau o Gymraeg i Saesneg gyda Gwasg Carreg Gwalch, ac awdures yw hi hefyd (chwiliwch am \u2018The Thirty-Third Owl\u2019)!<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Carol Evans<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Helo Pawb, Carol dw i. Wel mae\u2019r Nadolig wedi mynd. Gobeithio bod pawb wedi bod yn hapus gyda&#8217;r cinio Nadolig a\u2019r anrhegion. I fi mae&#8217;r Nadolig yn dechrau pan dw i\u2019n clywed llais y \u2018boy soprano\u2019 yn canu \u2018Once in Royal David&#8217;s City\u2019 o Goleg y Brenin, Caergrawnt. Mae rhywbeth arbennig iawn am y lle a&#8217;r carolau.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar y pedwerydd ar bymtheg o Ragfyr cawson ni wasanaeth carolau yn ein capel, Capel Soar, Rhiwceiliog, gyda Ch\u00f4r Cymysg Morgannwg Ganol. Roedd hi&#8217;n hyfryd i weld y capel yn llawn. Roedd rhaglen y c\u00f4r yn llawn o ganeuon Nadolig a charolau. Roedd un o&#8217;r carolau \u2018Hwiangerdd Mair yn fendigedig ac yn llawn o hiraeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l y cyngerdd roedd parti gyda bwyd, bwyd, a mwy o fwyd.!!! Noson lawn o gerddoriaeth a lleisiau yn canu yn harmoni. Noson i gofio yn wir.<\/p>\n\n\n\n<p>Gobeithio bydd 2025 yn garedig i chi oll.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>David Rose<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>David Rose dw i a dw i&#8217;n byw ym Milton Keynes nawr ond yn wreiddiol dw i&#8217;n dod o Dredegar. Symudais i Lundain ar \u00f4l gadael coleg yn yr wythdegau ond nawr dw i&#8217;n byw ger cyffordd un deg pedwar o&#8217;r M1.<\/p>\n\n\n\n<p>Dechreuais i ddysgu Cymraeg tair blynedd a hanner yn \u00f4l pan ymddeolais oherwydd ro&#8217;n i eisiau cerdded Llwybr Arfordir Cymru a siarad gyda phobl yng Nghymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i&#8217;n ceisio mynd i Ganolfan Cymraeg Llundain mor aml \u00e2 phosib er mwyn ymarfer siarad \u2018yn y gwyllt\u2019!<\/p>\n\n\n\n<p>Ces i ddim cyfle i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol. Dw i&#8217;n mwynhau dysgu&#8217;r iaith ond yn aml mae\u2019n anodd!<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i wedi gwneud cyfeillion da ar hyd y ffordd. Mae teulu gyda fi yn Nhredegar a dw i&#8217;n hoffi ymweld \u00e2 fy chwiorydd, perthnasau a chyfeillion pan dw i&#8217;n gallu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Shwmae Pawb<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>gan Carol Wright<\/p>\n\n\n\n<p>Heddiw (15 Hydref) yw\u2019r diwrnod \u2018Shwmae Su\u2019 mae\u2019. Mae\u2019r trefnwyr yn ei egluro fel \u201ccyfle i gael hwyl a rhannu\u2019r iaith &#8211; yn y siop, yn y ganolfan hamdden, yn yr ysgol \u2026\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i\u2019n hoffi\u2019r syniad \u2018na, ond yn anffodus dw i ddim yn gallu siarad Cymraeg yma yn Swydd Buckingham, ble dw i\u2019n byw, achos dydy neb yn yr ardal yn siarad Cymraeg. Beth bynnag, pan dw i yng Nghymru, dw i wastad yn trio siarad Cymraeg. Ym mis Medi ro\u2019n i\u2019n aros gyda fy nheulu ym Mhwllheli. Dyn ni\u2019n dwlu \u00e2\u2019r ardal \u2018na, ac yn mwynhau cerdded ar lwybr yr arfordir ym Mhen Llyn, neu ymweld \u00e2 Llanberis a\u2019r Wyddfa, ac i gestyll fel Cricieth a Chaernarfon.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i\u2019n dysgu Cymraeg gyda Choleg Gwent, a dw i\u2019n trio deall tafodiaith ardal Pwllheli, ond mae\u2019r acen yn gryf iawn. Siaradais i gyda phobl yn y siopau, ond weithiau ni ddeallais yr ateb, neu atebon nhw yn Saesneg! Un dydd ro\u2019n i\u2019n prynu rhywbeth yn y farchnad, a siaradais Cymraeg gyda perchennog y stondin. Deallais i fe\u2019n iawn, felly gofynnais i fe o ble yng Nghymru mae e\u2019n dod. Dwedodd e fod yn dod o\u2019r Almaen, ond yn byw yng Nghymru ers talwm. Dw i\u2019n siarad Almaeneg hefyd &#8211; efallai dyma pam ro\u2019n ni\u2019n deall ein gilydd!<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p><strong>Joan Cooper<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Joan Cooper dw i. Ym mis Mai es i ar wyliau i Carnac yn Llydaw gyda fy mab, merch yng nghyfraith a fy wyres. Dyn ni wedi gweld Cerrig Carnac \u2013 y cerrig megalithig mwyaf yn y byd, wedi ei godi gan bobl Llydaw yn yr oes cyn Geltaidd, yn debyg iawn o gwmpas 3300 cc. Maen nhw\u2019n cynnwys rhesi o feini cromlech a meini unigol. Wedyn aethon ni i Vannes a Phont Aven ac wedi mwynhau gweld yr hen adeiladau. Gwyliau diddorol dros ben a phawb wedi mwynhau yn fawr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>J\u00f4c Izzy Lane<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dw i ddim yn dweud bod hi wedi bwrw glaw llawer yr wythnos &#8216;ma ond, bore ddoe, gwelais i ddyn yn cerdded heibio gyda dwy afr. Yn y prynhawn aeth e heibio gyda dwy ddafad. Y bore &#8216;ma, roedd dwy i\u00e2r a dwy hwyaden gyda&#8217;r dyn. Mae fy nghymydog yn dweud fod llong fawr gyda\u2019r dyn, yn y doc!<\/p>\n\n\n\n<p><strong>J\u00f4c arall Izzy Lane<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ar fy ffordd i\u2019r gwaith, ces i fy stopio gan yr heddlu. \u201cDych chi\u2019n gwybod pam gwnaethon ni\u2019ch stopio chi?\u201d gofynnod y swyddog.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cUn funud\u201d dwedais i, \u201cGadewch i mi orffen yr alwad ff\u00f4n yma!\u201d<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Casglu arian i Marie Curie<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>gan Elizabeth Brent<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i wedi treulio dwy awr yn casglu arian ar y stryd yn Mwmbwls ar gyfer Marie Curie ddoe. Gwnes i sefyll o flaen y Co-op. Roedd y tywydd yn braf ond yn oer iawn. Ar \u00f4l awr do\u2019n i ddim yn gallu teimlo fy nhraed er ro\u2019n i\u2019n gwisgo dau b\u00e2r o hosanau!<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd rhaid i fi wisgo het ddwl! Roedd yr het yn edrych fel cennin Pedr! Dyma\u2019r llun! Gwnes i wisgo sbectol haul yn y gobaith y byddai neb yn fy adnabod!<\/p>\n\n\n\n<p>Gwnes i gasglu llawer o arian, ond mae rhai pobl yn llawn esgusodion \u2026..\u2026 Does dim arian m\u00e2n gyda fi.\u2026neu rhai yn mynd heibio fi, wrth edrych i ffwrdd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yr arian yn helpu i ofalu am fwy o bobl sy\u2019n byw gyda salwch terfynol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyfarfod ar Hap<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>gan Georgina Smith a Lesley Butler<\/p>\n\n\n\n<p>Georgina a Lesley ydyn ni a dan ni\u2019n dwy yn dysgu Cymraeg ar-lein gyda Phopeth Cymraeg. Mi wnaethon ni dechrau yn ystod y cyfnod clo. Dan ni newydd ddechrau Sylfaen uned un. Dan ni\u2019n lwcus i fod mewn dosbarth da iawn efo tiwtor gwych.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Georgina yn byw yn Neganwy a Lesley yn Nhremadog felly fydden ni ddim wedi cwrdd fel arall.<\/p>\n\n\n\n<p>Mi wnaethon ni gyfarfod wyneb yn wyneb, efo\u2019n cyd-ddisgyblion, am y tro cyntaf ym mis Hydref 2021 ar daith gerdded yn Ninbych a drefnwyd ar gyfer dysgwyr gan Bopeth Cymraeg. Cawson ni ginio diddorol &#8211; darn o wydr yn y cawl!<\/p>\n\n\n\n<p>Wnaethon ni cyfarfod eto efo&#8217;n dosbarth am ginio amser Nadolig 2022 . Roedd llawer o siarad Cymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn i ni ymddeol, roedden ni\u2019n gweithio mewn Prifysgolion, Georgina ym Mhrifysgol Manceinion a Lesley ym Mhrifysgol Lerpwl. Roedden ni\u2019n nabod yr un bobol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l hyn, roeddem am gadw mewn cysylltiad ac ers hynny rydym wedi cyfarfod yn rheolaidd gyda&#8217;n gw\u0177r, Dave ac Alan, am deithiau cerdded a bwyd naill ai yn Neganwy neu yn Nhremadog.<\/p>\n\n\n\n<p>Dan ni\u2019n dwy yn mwynhau dysgu Cymraeg ac yn ceisio ymarfer siarad Cymraeg pan fyddwn yn cwrdd. Roedd ein cyfarfod diwetha\u2019 ym Mangor am ginio, roedd yn hyfryd.<\/p>\n\n\n\n<p>Doedden ni ddim yn meddwl pan benderfynon ni ddysgu Cymraeg y bydden ni&#8217;n ddigon lwcus i gael ffrind newydd.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cath Dhanjal Cath Dhanjal dw i. Dw i\u2019n byw yn Lloegr, rhwng Bryste a Chaerfaddon. Dw i\u2019n dysgu Cymraeg ers mis Ebrill 2022. Cymraes yw fy mam i, ond dyw hi ddim yn siarad Cymraeg. Ond, mae hi\u2019n gallu canu\u2019r anthem genedlaethol! Dw i\u2019n trefnu dau gr\u0175p sgwrsio yn yr ardal ers mis Medi 2022 [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-431","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/431","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=431"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/431\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":442,"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/431\/revisions\/442"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=431"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}