{"id":436,"date":"2025-04-30T19:36:17","date_gmt":"2025-04-30T19:36:17","guid":{"rendered":"https:\/\/wennol.cymru\/?page_id=436"},"modified":"2025-05-01T21:43:39","modified_gmt":"2025-05-01T21:43:39","slug":"darllen-a-dysgu-reading-learning-articles-level-4","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/darllen-a-dysgu-reading-learning-articles-level-4\/","title":{"rendered":"Darllen a Dysgu | Reading &amp; Learning &#8211; Articles Level 4"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"300\" src=\"https:\/\/wennol.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/Swallow-with-Book-Lefel-4-300x300.png\" alt=\"Wennol - Darllen a Dysgu - Lefel 4\" class=\"wp-image-474\" srcset=\"https:\/\/wennol.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/Swallow-with-Book-Lefel-4-300x300.png 300w, https:\/\/wennol.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/Swallow-with-Book-Lefel-4-150x150.png 150w, https:\/\/wennol.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/Swallow-with-Book-Lefel-4-768x768.png 768w, https:\/\/wennol.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/Swallow-with-Book-Lefel-4.png 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Darllen a Dysgu &#8211; Lefel 4<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-28f84493 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p><strong>Wyverne Smith<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Wyverne dw i. Dw i&#8217;n byw yn Awstralia. Dw i&#8217;n dysgu Cymraeg achos daeth fy mam-gu a fy nhad-cu o Gaerdydd, amser maith yn \u00f4l. Aeth fy chwaer a fi i Gymru tua deg mlynedd yn \u00f4l. Ffeindion ni t\u0177 Mam-gu a Thad-cu. Treulion ni pedwar diwrnod ar fad ar y gamlas. Wedyn, aethon ni i Langollen i\u2019r Eisteddfod Ryngwladol. Roedd y gerddoriaeth yn fendigedig a phan oedd y bobl yn canu &#8220;Hiraeth&#8221;, ro\u2019n i&#8217;n crio.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedyn crwydron ni yn y mynyddoedd ac ymweld \u00e2 llawer o bentrefi.<\/p>\n\n\n\n<p>O\u2019n i&#8217;n wrth fy modd efo\u2019r wlad, y bobl a\u2019r iaith. Penderfynes i ddechrau dysgu Cymraeg. Dechreuais i ddefnyddio cwrs ar d\u00e2p, wedyn &#8220;Say Something in Welsh&#8221;, hefyd, ymunes \u00e2 llawer o gylchoedd sgwrsio.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedyn, yn 2023, es i i Gymru eto, ar fy mhen fy hun. Ces i amser da iawn. Arhoses i yng Ngarth Newydd, Llanbedr, am bythefnos a wnaeth fy Nghymraeg wella (tipyn bach!). Dywedodd fy ffrindiau wrtha i y dylwn i astudio drwy gwrs &#8220;Dysgu Cymraeg&#8221;. Wnes i ddechrau ond oedd rhaid i mi stopio oherwydd y gwahaniaeth amser.<\/p>\n\n\n\n<p>R\u0175an, dw i\u2019n gwneud \u201cSay Something in Welsh\u201d eto. Dw i\u2019n sgwrsio yn y Gymraeg efo ffrindiau yng Nghymru, Lloegr a hefyd yn Awstralia bron bob nos. Dw i\u2019n darllen llyfrau Cymraeg. Dw i wedi dod o hyd i Gymraes sy\u2019n byw yn agos at fy nh\u0177. Mae hi\u2019n siarad Cymraeg yn rhugl! Dw i wrth fy modd yn ymweld \u00e2 hi. Mae hi\u2019n helpu fi\u2019n fawr iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i\u2019n hoffi cerddoriaeth a dw i\u2019n arwain c\u00f4r yn fy mhentref. Yn ein cyngerdd ni\u2019n ddiweddar, wnaethon ni ganu \u201cAnfonaf Angel\u201d. Roedd yn brydferth.<\/p>\n\n\n\n<p>A gyda llaw, dw i\u2019n wyth deg oed!<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Blodyn gobaith<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>gan Jay Ramsurrun<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i wrth fy modd yn gweld pennau cennin Pedr yn sbecian allan o&#8217;r ddaear ym mis Ionawr. Erbyn Dydd G\u0175yl Dewi mae bron bob rhan o Gymru wedi\u2019u gorchuddio \u00e2 blodau melyn.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhywbeth hudolus am gennin Pedr. Mae&#8217;r bylbiau&#8217;n gaeafgysgu o dan y ddaear am o leiaf 6 mis. Maen nhw&#8217;n dioddef y tywydd gwaethaf ond maen aros yn gudd o&#8217;r golwg. Yna ym mis Ionawr, maen nhw&#8217;n deffro ac yn dechrau tyfu.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i&#8217;n hoffi gweld y blagur yn ymddangos ar yr wyneb. Dyma wawr y gwanwyn i mi. Yna un bore ym mis Chwefror\/Mawrth, fe welwch gloch felen wedi\u2019i hamgylchynu gan betalau melyn yn gwenu arnoch chi. Mae fel bod nhw\u2019n dweud, &#8220;Dyma fi i ti, eto. Edrych arnaf a charu fi.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae llawer o resymau pam y daeth y cennin Pedr yn flodyn cenedlaethol Cymru. Ond i mi, mae hyn oherwydd yr hyn y mae&#8217;n ei symboleiddio. Ni allaf ond dychmygu caledi bywyd yn y gorffennol. Daeth y daffodil yn symbol o&#8217;u brwydr eu hunain. Daeth yn symbol o oroesiad, gobaith, amynedd, dewrder, mawredd, a balchder.<\/p>\n\n\n\n<p>Does dim rhaid i ni heddiw boeni am galedi bywyd fel y gwnaeth y Cymry cyn-ddiwydiant. Ond rydym yn dal i garu gweld y blodau melyn sy&#8217;n ymweld \u00e2 ni bob blwyddyn heb fethu. Maen nhw&#8217;n dod \u00e2 llawenydd i&#8217;r galon, maen nhw&#8217;n gwenu arnom ni ac rydyn ni&#8217;n gwenu arnyn nhw. Maen nhw&#8217;n agor y llenni i fywyd heulog am ychydig fisoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Hir oes i&#8217;r genhinen Pedr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yna ac yn \u00f4l, mewn diwrnod<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>gan Dewi ap Dafydd<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i\u2019n byw yn Swydd Efrog, yn Lloegr (neu, fel dw i&#8217;n hoffi dweud, &#8216;Teyrnas Elmet o gwmpas dinas hynafol Efrog yn yr Hen Ogledd&#8217;), mae Cymru yn gorwedd nid yn unig dros y ffin ond hefyd ochr arall y Penwynion. Weithiau, mae hi&#8217;n ymddangos yn bell i ffwrdd, yn enwedig pan mae hi\u2019n bwrw glaw neu eira, neu yn niwlog. Beth bynnag, dyn ni&#8217;n teithio, fy ngwraig a finnau, i Gymru yn aml, ar gyfer penwythnosau neu am lond llaw o ddyddiau. Ond, hyd at Nadolig 2024 dyn ni erioed wedi gwneud y daith mewn un diwrnod yn unig. Sef, draw i Gymru o adra ac wedyn yn \u00f4l o fewn diwrnod. Y &#8216;Dolig &#8216;ma, gwnaethon ni hyn o&#8217;r diwedd!<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma ein hantur fach ni. Gadael y t\u0177 am chwarter i chwech yn y bore, i lawr yr M62, gyda chwmni Radio Cymru wrth gwrs, a gyda thipyn o doriad yng Ngwasanaethau Caer ar yr M54 am tua hanner awr wedi saith. Toriad byr am goffi a thipyn o ddarllen yn y Gymraeg i baratoi ein meddyliau am y diwrnod. Ac wedyn, i Gymru, yn pasio&#8217;r arwydd sy&#8217;n dweud &#8216;Croeso i Gymru&#8217; ar y A55 jyst cyn cyffordd 36A. Yn syth i&#8217;r Wyddgrug, tref hyfryd lle mae&#8217;r caffis ar agor yn y bore a lle roeddwn ni wedi trefnu i gwrdd \u00e2 ffrindiau Cymraeg yn y dref. Amser gwych iawn gyda\u2019n ffrindiau ac wedyn, ta-ta Cymru &#8211; yn \u00f4l dros y ffin. Ond dim yn \u00f4l i Loegr eto. Apwyntiad gyda ffrind arall sy&#8217;n byw yng Nghaer. Tipyn o sgwrs, tipyn o ginio, cwmni da, chwerthin a cherdyn Nadolig.<\/p>\n\n\n\n<p>Ac wedyn, mynd adref. Roedd yr M62 yn glir a chyn pedwar o&#8217;r gloch, dyma ni, yn \u00f4l adref. Tua deg awr o daith, llawn o brofiad Cymreig a Chymraeg. Fel dwedais i, dyma ein tro cyntaf i deithio a dychwelyd mewn dydd ac roedd hi&#8217;n llwyddiant mawr. Dyn ni&#8217;n edrych ymlaen at ail-wneud yr holl beth yn fuan. Mae Cymru yn agosaf nag o\u2019n i\u2019n meddwl!<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Nadolig: Cyn ac Wedi<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>gan Peter Ball<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n amlwg fod Nadolig yn dod pan mae\u2019r tywydd yn Nhasmania yn fwy poeth nac ym Mhrydain, ac mae pobl yma yn bwyta bwydydd gwahanol &#8211; er enghraifft cimwch a salad ffrwyth yn lle twrci a phwdin eirin &#8211; ac yn arferol yn bwyta dan gysgod rhyw goeden neu mewn llecyn ar y traeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Serch hynny, mae rhywbeth arall, llai amlwg, sydd wedi cymryd llawer o flynyddoedd i mi sylwi. Yn Awstralia mae\u2019r flwyddyn ysgol, prifysgol a masnach yn dechrau ym mis Chwefror ac yn dod i ben ym mis Rhagfyr. Oherwydd mai hynny yw\u2019r arfer cenedlaethol, yn ystod y misoedd Hydref, Tachwedd a Rhagfyr mae\u2019n rhaid i bawb gwpla popeth mewn pryd, cyn Nadolig a chyn y Gwyliau Haf: cymaint o gyngherddau (gan gynnwys ymarferion), adroddiadau athrawon, penodiadau meddygol (gan gynnwys profion gwaed, pelydrau-x, gwahanol scans.) Mae\u2019r cyfnod yn brysur dros ben.<\/p>\n\n\n\n<p>Ac ar \u00f4l y Dolig? Wel, mae G\u0175yl San Steffan, Dydd Calan a\u2019r arwerthiannau wrth gwrs. Ym Mhrydain bant \u00e2 phawb i\u2019r gwaith. Dim yr un peth yn Nhasmania: bant \u00e2 ni yn syth i\u2019r traeth, i nofio neu hwylio, i chwarae neu wylio\u2019r criced a thenis. Mae\u2019r strydoedd yn y dre braidd yn dawel, ac mae\u2019r gwyliau\u2019r haf yn parhau tan fis Chwefror.<\/p>\n\n\n\n<p>Ac wedyn, mae popeth yn mynd yn&nbsp;\u00f4l i normalrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Helen Howells<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Shw mae pawb!<\/p>\n\n\n\n<p>Helen dw i. Dw i\u2019n dod o Langynwyd o ble mae\u2019r \u2018Ferch o Gefn Ydfa\u201d yn dod, a\u2019r g\u00e2n \u201cBugeilio\u2019r Gwenith Gwyn\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd fy mam-gu yn siarad Cymraeg \u00e2 fi pan o\u2019n i\u2019n ifanc ond gwnaeth hi stopio pan ro i\u2019n bedair oed ac yn mynd i\u2019r ysgol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i wedi bod yn dysgu sut i siarad Cymraeg am bedair blynedd gyda Phrifysgol Abertawe ar Zoom. Mae ein tiwtor ni yn wych a\u2019n gr\u0175p ni yn fendigedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyn ni\u2019n siarad yn Gymraeg gyda\u2019n gilydd am beth dyn ni wedi gwneud cyn i ni ddechrau\u2019r wers.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i newydd benderfynu ddechrau \u2018Siawns am Sgwrs\u201d i ymarfer siarad Cymraeg mwy, a dw i\u2019n edrych ymlaen at hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wythnos yma wedi bod yn brysur iawn achos mae fy nghefnder yn aros gyda ni. Mae e\u2019n dod o Awstralia ac mae e wedi bod yn byw yn Llundain am ugain mlynedd ond dydy e ddim wedi ymweld \u00e2 Chymru o\u2019r blaen. Felly aethon ni i \u201cPwll Mawr\u201d, Aberfan, a Sain Ffagan. Mwynhaodd ei hun yn fawr iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyna i gyd am y tro ond bydda i\u2019n ysgrifennu eto.<\/p>\n\n\n\n<p>Achos, dw i\u2019n mwynhau dysgu Cymraeg yn fawr iawn a pan dw i\u2019n ysgrifennu dw i\u2019n gwybod mae o\u2019n helpu fi.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Nigel Mann<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mi ges i fy ngeni a&#8217;m magu yn Llanelli. Rydw i wedi byw yn Ninas Wrecsam ers blynyddoedd nawr. Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Mi fydda i&#8217;n dechrau ar y Cwrs Canolradd ym mis Medi, efo fy ngwraig Geraldine.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i wedi ymddeol, ond roeddwn i\u2019n athro Cemeg am dri deg pum mlynedd. Dw i&#8217;n mwynhau&#8217;r rhyddid o ymddeol ond dw i&#8217;n colli dysgu ychydig bach &#8211; ffrindiau gwaith, myfyrwyr a ergydion a fflachiadau yn y Lab!<\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd, roeddwn i&#8217;n Swyddog yn y Fyddin wrth Gefn am dri deg saith mlynedd, hyd yn oed fwy o ergydian a fflachiau! Yn y fyddin, dw i wedi gweld llawer o bethau bendigedig ym myd natur; Y Goleuadau Gogleddol, eirth gwyllt, lincs, crwbanod y m\u00f4r, dolffiniaid, hyd yn oed mongws yn dwyn siocled! Hefyd, gwasanaethais yn Bosnia (1996) ac Iraq (2003-04). Yno, roeddwn i&#8217;n dysgu beth syn bwysig yn fy mywyd.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p><strong>Kerys Whitley<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Hel\u00f4 pawb! Kerys dw i. Dw i&#8217;n byw ym Maes-glas sy&#8217;n bentre\u2019 tua milltir i ffwrdd o Dreffynnon. Dw i&#8217;n dysgu Cymraeg ers bron i ddwy flynedd a wnes i sefyll yr arholiad Sylfaen yn ddiweddar. Dw i&#8217;n gobeithio dechrau cwrs Canolradd ym mis Medi, ond mae&#8217;n dibynnu ar ganlyniad yr arholiad. Croesi bysedd!<\/p>\n\n\n\n<p>Ro&#8217;n i&#8217;n teimlo braidd yn drist pan orffennodd fy nghwrs Sylfaen ond bydda i&#8217;n defnyddio fy Nghymraeg mewn sawl ffordd dros yr haf. Bydda i&#8217;n mynd i sesiynau sgwrs yn llyfrgell Treffynnon ddwywaith y mis. Mae&#8217;n gyfle gwych i gyfarfod \u00e2 phobl o bob lefel a gwneud ffrindiau newydd. Yn ystod y sesiynau, dan ni&#8217;n defnyddio cardiau cwestiwn sy&#8217;n ddefnyddiol iawn ar gyfer cychwyn sgwrs. Weithiau, dan ni&#8217;n defnyddio map mawr o Gymru i siarad am le dan ni wedi bod ar wyliau a lle roedden ni&#8217;n arfer byw.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod amser paned, dan ni&#8217;n cymryd rhan mewn cwis hwyliog neu siarad yn rhydd efo&#8217;n gilydd. Mae&#8217;n medru bod yn anodd ffeindio cyfleoedd i ymarfer siarad, yn enwedig dros yr haf. Felly, os dach chi isio ymarfer eich Cymraeg, mae croeso mawr i chi ymuno \u00e2 ni yn llyfrgell Treffynnon ar y cyntaf a&#8217;r trydydd dydd Gwener o bob mis, o 2 tan 4 yn y prynhawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydda i&#8217;n gwneud pethau eraill i wella fy sgiliau, wrth gwrs.&nbsp;Dw i ddim yn hoff o edrych ar y teledu fel arfer, ond mi wna i wylio &#8216;Am Dro&#8217; a&#8217;r rhaglenni am natur achos dw i&#8217;n hoff iawn o fynd am dro yng nghefn gwlad a chwilio am fywyd gwyllt.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i&#8217;n edrych ymlaen at ddarllen yn yr ardd gefn. Gobeithio bydd y tywydd yn braf ym mis Awst achos mae gen i bentwr mawr o lyfrau Cymraeg sy wedi tyfu&#8217;n fwy ac yn fwy dros y flwyddyn ddiwethaf. Dw i&#8217;n meddwl am gadw dyddiadur neu ddechrau blog personol ar-lein achos, yn y dyfodol, baswn i wir yn hoffi sgwennu nofel ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Rhaid i mi wella fy Nghymraeg a fy sgiliau sgwennu&#8217;n gyntaf. Dw i wir ddim yn barod am y fath beth ar hyn o bryd ond dw i&#8217;n medru breuddwydio. Dylwn i chwilio am wersi ysgrifennu creadigol falle.<\/p>\n\n\n\n<p>Beth bynnag, mwynhewch eich Cymraeg dros yr haf, peidiwch \u00e2 phoeni gormod am gamgymeriadau neu&#8217;r treigladau. Dim ond rhaid i ni fynd amdani a gwneud ein gorau glas!<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae\u2019n wych dysgu Cymraeg<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Neville Eden<\/p>\n\n\n\n<p>Helo pawb, Neville dw i. Mi ges i fy ngeni yn Lloegr. Does gen i ddim cysylltiad \u00e2 Chymru o gwbl, ond dw i wedi bod ar wyliau yng Ngogledd Cymru yn rheolaidd ers mwy na phedwar deg mlynedd. Saith mlynedd yn \u00f4l penderfynon fy ngwraig a fi symud o Sandbach yn sir Gaer i Abergele yng Ngogledd Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i wedi teithio i lawer o wledydd ar gyfer fy ngwaith ac ar wyliau hefyd a phob tro dw i wedi ceisio dysgu ychydig o eiriau yn yr iaith leol, felly achos dw i\u2019n byw yng Nghymru r\u0175an o\u2019n i\u2019n penderfynu roedd rhaid i fi ddysgu Cymraeg. Roedd hi\u2019n benderfyniad amlwg i fi.<\/p>\n\n\n\n<p>O\u2019n i\u2019n dechrau dysgu efo \u201cDuoLingo\u201d a dw i dal yn defnyddio&#8217;r ap bob bore i ymarfer a chadw Cymraeg yn llifo yn fy mhen. Dechreuais i ddysgu trwy \u201cdysgucymraeg.cymru\u201d efo cwmni o\u2019r enw \u201cPopeth Cymraeg\u201d o Ddinbych. Ar \u00f4l y flwyddyn gyntaf, ar ddechrau\u2019r haf o\u2019n i\u2019n poeni am anghofio popeth dros yr haf, felly dechreuais i ddysgu efo \u201cSay Something in Welsh\u201d. Roedd hynny\u2019n rhaglen wych ac yn helpu fi godi hyder mewn siarad Cymraeg yn uchel.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i dal yn dysgu efo \u201cPopeth Cymraeg\u201d bob wythnos a dros y blynyddoedd dw i wedi ceisio taflu fy hun i mewn i bob cyfle i ymestyn fy hun tu allan i fy \u201ccomfort zone\u201d. Dw i wedi bod ar lawer o benwythnosau sy wedi cael eu trefnu gan ffrind sy\u2019n rhedeg gwefan https:\/\/paned.cymru\/collections\/welsh-days-out-and-courses. Yn ychwanegol, dw i wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg cyfoes ac mae\u2019n helpu fi i wrando ar wahanol eiriau ac ymadroddion a cheisio eu deall. Fy hoff fand ar hyn o bryd ydy \u2018Bwncath\u2019 a dw i wedi gweld nhw yn fyw sawl gwaith yn cynnwys yn yr Eisteddfod ddiwethaf ym Mhen Llyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i wedi ceisio llawer o ffyrdd i ddatblygu fy Nghymraeg a dw i wedi bod yn ceisio ysgrifennu barddoniaeth hefyd. O\u2019n i\u2019n arfer trio ysgrifennu barddoniaeth yn Saesneg cyn i fi ddechrau dysgu Cymraeg, ond dw i\u2019n cael mwy o ysbrydoliaeth gan yr hen iaith a gan y diwylliant Cymraeg. Mae hi\u2019n deimlad arbennig iawn i fi. Mae hanes Cymraeg yn llawn o straeon hyfryd ac yn ysbrydoledig.<\/p>\n\n\n\n<p>Dydy\u2019r daith dysgu Cymraeg ddim yn fyr, ond mae\u2019n werth chweil, ac \u201crhaid cropian cyn cerdded\u201d fel maen nhw\u2019n dweud&#8230;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Geraldine Mann<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mi ddylwn i fod wedi gwisgo c\u00f4t gynhesach, roedd hi&#8217;n heulog ond yn oer. Roedd hi&#8217;n swnllyd hefyd ond yn hwyl. Roedden ni\u2019n cerdded trwy ganol dinas Wrecsam efo llawer o bobl a oedd yn gwenu a chwifio baneri Cymru.&nbsp;Mi welon ni Seremoni Gorseddu&#8217;r&nbsp; Archdderwydd Mererid yn Llwyn Isaf. Wedyn mi ganon ni Hen Wlad fy nhadau efo&#8217;n&nbsp;gilydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd croeso cynnes i bawb y flwyddyn nesaf oherwydd bydd yr Eisteddfod yn&nbsp;Wrecsam&nbsp;!!<\/p>\n\n\n\n<p>Helo Geraldine dw i.&nbsp;Dw i&#8217;n dysgu Cymraeg efo fy ng\u0175r, Nigel. Dan ni&#8217;n dysgu yng Ngholeg Cambria, Wrecsam ers bron ddwy flynedd. Mi ges i fy ngeni yn Iwerddon a mi gaeth Nigel ei fagu yn Llanelli.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dyddiadur Maisie,<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y Gath Orau o Fathri (yn \u00f4l Maisie)<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn perthyn i Sarah Price<\/p>\n\n\n\n<p><em>Wel dyma ni, un gath yn cael sylw yn Y Wennol ac mae rhaid i\u2019r chwaer cael sylw r\u0175an. Na fydda i\u2019n gwneud hyn fel arfer ond, wrth ystyried iechyd Sarah a Keith, (a chyflwr y carped) roedd rhaid i mi gynnwys stori Maisie yn y rhifyn yma!<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dydd Llun<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dihunais i am chwech o\u2019r gloch. Clywais i Molly, fy chwaer, yn crafu\u2019r carped. Si\u0175r o fod mae hi wedi crafu fe am sbel cyn i fi ei chlywed hi. Mae hi\u2019n ddrwg iawn! Dw i byth yn gwneud pethau fel \u2019na &#8211; wel, bron byth. Mae e\u2019n ddefnyddiol bod hi\u2019n crafu\u2019r carped, beth bynnag, achos mae Keith yn codi ac yn bwydo ni. Mae \u2018Felix\u2019 gyda thiwna ar y fwydlen &#8211; blasus iawn. Mae e\u2019n bwysig bwyta cyn gynted \u00e2 phosib er mwyn gwthio Molly mas o\u2019i dysgl a gorffen ei bwyd hi. Yn anffodus, y dyddiau &#8216;ma, mae Molly\u2019n gwybod yn union beth sydd yn fy meddwl ac mae hi\u2019n bwyta cyn gynted \u00e2 phosib hefyd. Mae e\u2019n siomedig iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l brecwast ro\u2019n i\u2019n hela Molly o gwmpas ein t\u0177 ni. Roedd e\u2019n ddoniol iawn i\u2019w gweld yn rhedeg o gwmpas y t\u0177 yn wallgo\u2019. Ar \u00f4l hynny roedd e\u2019n amser i fynd allan i chwilio am lygod, ond doedd dim llygod eisiau chwarae gyda fi heddiw achos roedd hi\u2019n bwrw hen wragedd a ffyn (dw i\u2019n hoff iawn o\u2019r ymadrodd &#8216;ma &#8211; yn fy marn i, dyw \u2018raining cats and dogs\u2019 ddim yn gwneud synnwyr o gwbl!), felly roedd e\u2019n amser cysgu tan i ni gael swper am chwech o\u2019r gloch. Ar \u00f4l swper roedd Molly a fi\u2019n cysgu\u2019n dawel o flaen y t\u00e2n. Mae e\u2019n berffaith i orffen diwrnod prysur o flaen y t\u00e2n.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dydd Mawrth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Wel, yr un peth y bore \u2018ma. Ro\u2019n i\u2019n dihuno pan oedd fy nghloc larwm, sef Molly, yn crafu\u2019r carped. Mae Keith wastad yn codi yn gyntaf. Dw i\u2019n meddwl bod Sarah yn ddiog iawn \u2013 dw i ddim wedi gweld hi cyn wyth o\u2019r gloch erioed!! <em>(Dyw hyn ddim yn deg o gwbl, Maisie \u2013 Sarah.)<\/em> Ceisiais i fwyta cyn gynted \u00e2 phosib fel arfer ond, yn anffodus, roedd Molly\u2019n gwneud yr un peth hefyd, felly doedd dim bwyd ychwanegol i fi.<\/p>\n\n\n\n<p>Heddiw roedd y tywydd yn heulog, felly ro\u2019n i\u2019n hela Molly allan o\u2019r \u2018catflap\u2019, o gwmpas yr ardd ac, o\u2019r diwedd, n\u00f4l i\u2019r t\u0177. Ar \u00f4l \u2018na, ro\u2019n i\u2019n chwilio am lygod yn ar ardd ond dim ond gwiwer gwelais i yn dringo coeden yn gyflym iawn (ta beth, do\u2019n i ddim eisiau chwarae gyda fe achos dw i wedi clywed bod gwiwerod yn cnoi). Yn y diwedd, diwrnod arall o fwyta a chysgu o flaen y t\u00e2n oedd heddiw.<\/p>\n\n\n\n<p>Bywyd llawn o straen yw bywyd Molly a fi!<\/p>\n\n\n\n<p><em>A dyna chi, Sarah a Keith, cewch chi heddwch r\u0175an &#8211; gobeithio!<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Fy Nhaith yn y Gymraeg<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Hyd yn Hyn<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>gan Dixey Brooks<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn anodd i mi, ac yn dal i fod, hyd yn oed ar \u00f4l bron i bedair blynedd o astudio&#8217;r iaith ddirgel yma gyda Say Something in Welsh a Duolingo. Dw i&#8217;n siarad Saesneg, Eidaleg, Sbaeneg a Ffrangeg yn rhugl, a rhywfaint o Roeg, tair o&#8217;r ieithoedd hynny o blentyndod. Sbaeneg a Groeg dysgais fel oedolyn yn rhwydd. Mae&#8217;r ieithoedd hynny&#8217;n gyfarwydd, yn reddfol, ac yn hawdd eu dysgu a&#8217;u deall.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond peth arall yw&#8217;r Gymraeg! Dw i wedi bod yn byw yng Ngheredigion ers 13 mlynedd, a bob dydd pan dw i\u2019n mynd i&#8217;r dref, (Llanbedr Pont Steffan), dw i&#8217;n clywed Cymraeg yn cael ei siarad o&#8217;m cwmpas. Eto i gyd ar \u00f4l bron i bedair blynedd o astudio, dw i&#8217;n deall ychydig iawn o&#8217;r hyn y mae pobl o&#8217;m cwmpas yn ei ddweud er fy mod yn gallu dweud llawer o bethau. Dwi&#8217;n dechrau gallu ei ddarllen, ond os dwi&#8217;n gwrando ar BBC Radio Cymru dwi&#8217;n deall bron dim.<\/p>\n\n\n\n<p>Dw i\u2019n siarad Cymraeg gyda phobl yn y siopau ac maent yn galonogol, ond dw e ddim yn ddigon. Yn fy mywyd bob dydd mae siaradwyr Saesneg o&#8217;m cwmpas. Mae gr\u0175p sgwrsio misol yn Llambed ond mae bron bob amser yn digwydd pan dw i ddim yn rhydd. Hoffwn i gyfarfod unwaith neu ddwywaith yr wythnos gyda siaradwr Cymraeg, dros baned mewn caffi! Byddai hynny&#8217;n help mawr, dwi&#8217;n meddwl.ynny&#8217;n help mawr, dwi&#8217;n meddwl.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wyverne Smith Wyverne dw i. Dw i&#8217;n byw yn Awstralia. Dw i&#8217;n dysgu Cymraeg achos daeth fy mam-gu a fy nhad-cu o Gaerdydd, amser maith yn \u00f4l. Aeth fy chwaer a fi i Gymru tua deg mlynedd yn \u00f4l. Ffeindion ni t\u0177 Mam-gu a Thad-cu. Treulion ni pedwar diwrnod ar fad ar y gamlas. Wedyn, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-436","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/436","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=436"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/436\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":487,"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/436\/revisions\/487"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wennol.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=436"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}